Gâl (Lladin: Gallia) oedd enw'r Rhufeiniaid am diriogaeth y llwythau Celtaidd yn Ffrainc, y Swistir a gogledd yr Eidal heddiw.
Gallia Cisalpina (‘Gâl is yr Alpau’) neu Gallia Citerior oedd yr enw am ei diriogaeth yng ngogledd yr Eidal; Gallia Transalpina (‘Gâl dros yr Alpau’) neu Gallia Ulterior oedd yr enw am ei diriogaeth rhwng Afon Rhein, y Pyreneau, yr Alpau, y Môr Canoldir a'r Môr Iwerydd (sy'n cyfateb yn fras i Ffrainc a Gwlad Belg heddiw). Yn y cyfnod modern mae rhai haneswyr yn defnyddio'r enw i gyfeirio at yr Âl orllewinol yn bennaf neu'n unig. Gelwir y penrhyn lle mae Llydaw gyfoes hyd at lannau'r Afon Seine yn Armorica.
Math | ardal hanesyddol, hen wareiddiad, cenedl, cyn endid gweinyddol tiriogaethol |
---|---|
Prifddinas | Lugdunum |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc, yr Almaen, Yr Iseldiroedd, yr Eidal, Y Swistir, Gwlad Belg, Lwcsembwrg |
Arwynebedd | 494,000 km² |
Cyfesurynnau | 46.5°N 2.9°E |
Roedd y Celtiaid yn Gallia Cisalpina wedi cael eu goresgyn gan y Rhufeiniaid tua'r 3 CC/ail ganrif CC. Yn 89 CC a 49 CC cawsant ddinesyddiaeth Rufeinig. Ar ddechrau'r 2g CC goresgynodd y Rhufeiniaid ran o dde Ffrainc a sefydlu talaith Gallia Narbonensis yno. Ond doedden nhw ddim yn fodlon ar hynny. Yn 58-51 CC arweiniodd Iŵl Cesar ei llengoedd i weddill Gâl a'i chwncweru ar ôl nifer o frwydrau caled yn erbyn y Galiaid. Cafodd y wlad ei rhannu'n dair talaith gan yr ymerodr Augustus yn 27 CC: Gallia Belgica yn y gogledd-ddwyrain, Gallia Aquitania yn y de-orllewin a Gallia Lugdunensis yn y canol. Sefydlwyd dinas Lugdunum (Lyons) fel coloni yng nghanol y "Tair Gâl" (Tres Galliae) hyn yn 43 CC. Gwasanethai Lugdunum fel canolfan weinyddiaeth i'r llwythau hefyd, ac roedd y Concilium Galliarum ("Cyngor y Galiaid") yn cwrdd yn y ddinas newydd i setlo anghydfod.
Blodeuai diwylliant arbennig yn yr Âl Rufeinig, a gyfunai elfennau Celtaidd a Rhufeinig; fe'i gelwir weithiau'n ddiwylliant Galaidd-Rufeinig. Yn ystod yr ail ganrif dechreuodd Cristnogaeth gyrraedd Gâl a chafodd hyn yn ei thro effaith sylweddol ar iaith a diwylliant yr ardal. Yn y 3g cafwyd nifer o gyrchoedd ar Âl gan lwythau Germanaidd a phan ymadawodd y llengoedd Rhufeinig olaf yn y 5fed ganrif goresgynnwyd y wlad i gyd gan y Germaniaid a chafodd ei rhannu rhwng y prif lwythau, sef y Ffranciaid, y Alemanni, y Bwrgwyniaid a'r Fisigothiaid.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gâl, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.