Roedd Nikolai Andreyevich Rimsky-Korsakov (18 Mawrth 1844 – 21 Mehefin 1908) yn gyfansoddwr ac athro o Rwsia.
Roedd e'n un o'r cyfansoddwyr mwyaf enwog ar y pryd. Fel llawer o gyfansoddwyr o Rwsia yn y 19eg ganrif, roedd yn gyfansoddwr amatur. Roedd ei brif swydd yn y llynges.
Nikolai Rimsky-Korsakov | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1844 (yn y Calendr Iwliaidd) Tikhvin |
Bu farw | 21 Mehefin 1908 o trawiad ar y galon Lyubensk |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd, cerddolegydd, hunangofiannydd, athro cerdd, damcaniaethwr cerddoriaeth, academydd, person milwrol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Scheherazade, Symphony No. 1, The Golden Cockerel |
Arddull | opera, symffoni, cerddoriaeth glasurol |
Tad | Andrey Rimsky-Korsakov |
Mam | Sofia Vasilievna Skaryatina |
Priod | Nadezhda Rimskaya-Korsakova |
Plant | Andrey Rimsky-Korsakov, Mikhail Rimsky-Korsakov, Vladimir Rimsky-Korsakov, Q124808633 |
Perthnasau | Irina Golovkina |
Llinach | House of Rimsky-Korsakov |
llofnod | |
Cafodd ei eni yn 1844 yn Tikhvin, 200 cilometr i'r dwyrain o St Petersburg. Roedd llawer o'i deulu yn gweithio yn y fyddin neu'r llynges, ac roedd ei rieni yn gallu canu tipyn bach o biano. Pan oedd yn iau, dangosodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Byddai'n canu pob alaw roedd yn clywed. Dechreuodd cael gwersi piano pan oedd yn 6 gan yr athro lleol. Dechreuodd gyfansoddi yn 10 oed, ond roedd wastad well ganddo lenyddiaeth i gerddoriaeth.
Fodd bynag, roedd e eisiau ymuno â'r llynges, felly yn 1862 aeth i 'College of Naval Cadets' lle roedd ei frawd Voin yn gyfarwyddwr. Parhaodd i ddysgu'r piano tra oedd yn ysgol y llynges. Doedd e byth yn bianydd gwych.
Roedd Rimsky-Korsakov yn gweithio dau neu dri diwrnod yr wythnos i'r llynges. Treuliodd weddill ei amser yn cyfansoddi neu yn ymweld â ffrindiau. Fe wnaeth gwrdd â llawer o gyfansoddwyr eraill gan gynnwys Borodin a Dargomyzhsky. Roedd Tchaicovsky hefyd yn ffrind i Rimsky-Korsakov. Yn 1897, rhoddodd y gorau i gyfansoddi am sawl blwyddyn, ac aeth i archwilio bandiau Llynges a dysgu'n fanwl sut mae offerynnau yn gweithio.
Yn 1871, dechreuodd Rimsky-Korsakov ddysgu theori a chyfansoddi i ddisgyblion yn Ysgol Gerddoriaeth Saint Petersburg lle dysgodd 250 o ddisgyblion dros gyfnod o 35 mlynedd. Dysgodd mewn dwy ysgol arall ac yn breifat yn ei gartref. Mae rhai o'i ddisgyblion yn cynnwys: Igor Stravinsky, Sergei Prokofiev ac Alexander Glazunov.
Yn 1872, priododd Nadezhda Purgold. Roedd hi'n brydferth ac yn dda iawn am ganu'r piano ac helpodd hi i greu trefniannau o'i ddarnau cerddorfa i'r piano. Cawson nhw saith plentyn gyda'i gilydd. Ysgrifenodd hunangofiant. Bu farw yn 1908.
Mae Rimsky-Korsakov yn cael ei gofio yn bennaf am rai o'i gyfansoddiadau ar gyfer cerddorfa. Yn enwedig Scheherazade, Spanish Capriccio ac Easter Festival Overture. Un o'i weithiau enwocaf i'r piano yw Flight of the bumblebee. Ysgrifennodd 3 symffoni a nifer o operâu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nikolai Rimsky-Korsakov, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.