Cymdeithasegydd o'r Almaen oedd Maximilian Carl Emil Weber (21 Ebrill 1864 – 14 Mehefin 1920).
Ganed ef yn Erfurt yn Thuringia, yn blentyn hynaf i Max Weber, gwleidydd rhyddfrydol a gwas sifil. Dechreuodd ei yrfa ym Mhrifysgol Berlin, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio ym mhrifysgolion Freiburg, Heidelberg a München.
Max Weber | |
---|---|
Ganwyd | Maximilian Carl Emil Weber 21 Ebrill 1864 Erfurt |
Bu farw | 14 Mehefin 1920 o niwmonia, Pandemig ffliw 1918 München |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia, Gweriniaeth Weimar, Ymerodraeth yr Almaen |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, economegydd, cymdeithasegydd, athronydd, anthropolegydd, cyfreithiwr, academydd, cerddolegydd, gwleidydd, hanesydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Economy and Society, The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism, Science as a Vocation, Politics as a Vocation, Wirtschaftsgeschichte, The Religion of China, The Religion of India, Ancient Judaism |
Plaid Wleidyddol | National-Social Association, Plaid Ddemocrataidd yr Almaen, Progressive People's Party |
Tad | Max Weber |
Mam | Helene Weber |
Priod | Marianne Weber |
Partner | Mina Tobler, Else von Richthofen |
llofnod | |
Roedd prif ddiddordebau Weber yn ymwneud â chymdeithaseg crefydd a llywodraeth. Ei gyhoeddiad pwysicaf oedd Yr Ethig Protestannaidd ac Ysbryd Cyfalafiaeth, lle mae'n dadlau fod crefydd yn un o'r rhesymau pwysicaf am y gwahaniaethau yn natblygiad diwylliannau y gorllewin a'r dwyrain. Ei ddamcaniaeth oedd fod nodweddion Protestaniaeth wedi arwain at ddatblygiad cyfalafiaeth.
Mewn gwaith arall, Gwleidyddiaeth fel Galwedigaeth, diffiniodd Weber y wladwriaeth fel y corff sy'n hawlio monopoli ar ddefnydd cyfreithlon grym, diffiniad sydd wedi dod yn allweddol i wyddor gwleidyddiaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Max Weber, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.