Llygredd dŵr (neu lygredd dyfrol) yw halogiad cyrff dŵr (pyllau, llynnoedd, afonydd a chefnforoedd), fel arfer o ganlyniad i weithgareddau dynol.
Ceir llygredd dŵr pan gyflwynir halogion i'r cyrff dŵr hyn. Gellir priodoli llygredd dŵr i un o bedair ffynhonnell: gollyngiadau carthion, gweithgareddau diwydiannol, gweithgareddau amaethyddol, a dŵr ffo trefol gan gynnwys dŵr storm.
Enghraifft o'r canlynol | llygredd |
---|---|
Math | llygredd amgylcheddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir ei grwpio yn llygredd dŵr wyneb neu yn llygredd dŵr daear, e.e. gall rhyddhau dŵr gwastraff nad yw wedi'i drin yn ddigonol i ddyfroedd naturiol arwain at ddiraddio'r ecosystemau dyfrol hyn. Gall llygredd dŵr hefyd arwain at glefydau a gludir gan ddŵr i bobl sy'n defnyddio dŵr llygredig ar gyfer yfed, ymolchi, golchi neu ddyfrhau. Mae llygredd dŵr yn lleihau gallu’r corff o ddŵr i ddarparu’r gwasanaethau ecosystem (fel dŵr yfed).
Mae ffynonellau llygredd dŵr naill ai'n ffynonellau pwynt neu'n ffynonellau nad ydynt yn bwyntiau (sef y termau a ddefnyddir yn y maes hwn). Mae gan ffynonellau pwynt un achos adnabyddadwy, megis draen storm, gwaith trin dŵr-gwastraff neu ollyngiad olew. Mae ffynonellau di-bwynt yn fwy gwasgaredig, fel dŵr ffo amaethyddol. Llygredd yw canlyniad yr effaith sy'n cronni dros amser.
Gall llygredd fod ar ffurf sylweddau gwenwynig (ee olew, metelau, plastigion, plaladdwyr, llygryddion organig parhaus, cynhyrchion gwastraff diwydiannol), amodau dirdynnol (ee, newidiadau mewn pH, hypocsia neu anocsia, tymheredd uwch, cymylogrwydd gormodol, blas annymunol neu aroglau, a newidiadau mewn halltedd), neu organebau pathogenig. Gall halogion gynnwys sylweddau organig ac anorganig ac fe all gwres hefyd fod yn llygrydd, a gelwir hyn yn llygredd thermol. Achos cyffredin llygredd thermol yw'r defnydd o ddŵr fel oerydd gan weithfeydd pŵer a gweithgynhyrchwyr diwydiannol.
Mae rheoli llygredd dŵr yn gofyn am seilwaith (neu isadeiledd) a chynlluniau rheoli priodol yn ogystal â deddfwriaeth. Gall atebion technoleg gynnwys gwella glanweithdra, trin carthion, trin dŵr gwastraff diwydiannol, trin dŵr gwastraff amaethyddol, rheoli erydiad, rheoli gwaddod a rheoli dŵr ffo trefol (gan gynnwys rheoli dŵr storm). Mae rheolaeth effeithiol ar ddŵr ffo trefol yn cynnwys lleihau cyflymder a maint y llif.
Diffiniad ymarferol o lygredd dŵr yw: "Llygredd dŵr yw ychwanegu sylweddau neu ffurfiau ynni sy'n newid natur y corff dŵr yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol mewn modd sy'n effeithio'n negyddol ar ei ddefnydd cyfreithlon". Felly, mae llygredd yn gysylltiedig â chysyniadau a briodolir i fodau dynol, sef y newidiadau negyddol a'r defnydd o'r corff dŵr. Yn nodweddiadol, cyfeirir at ddŵr fel dŵr llygredig pan fydd halogion anthropogenig yn amharu arno. Mae'r halogion hyn weithiau'n atal y defnydd dynol ohono ee dŵr yfed, neu drwy leihau ei allu i gynnal ei gymunedau biotig, megis pysgod.
Gall y cyfansoddion canlynol i gyd gyrraedd cyrff dŵr trwy garthffosiaeth amrwd neu hyd yn oed arllwysiadau carthion wedi'u trin:
Y prif grwpiau o organebau pathogenig yw: (a) bacteria, (b) firysau, (c) protosoaid a (d) helminths. Yn ymarferol, defnyddir organebau dangosol i ymchwilio i lygredd pathogenig dŵr oherwydd ei fod yn anodd ac yn gostus i ganfod organebau pathogenig mewn sampl dŵr, oherwydd eu crynodiadau isel. Y dangosyddion (dangosydd bacteriol) o halogiad trwnc mewn samplau dŵr a ddefnyddir amlaf yw: cyfanswm colifformau (TC), colifformau fecal (FC) neu golifformau tymheredd-oddefgar, E. coli.
Gall pathogenau gynhyrchu clefydau a gludir gan ddŵr naill ai mewn gwesteiwyr dynol neu anifeiliaid. Mae rhai micro-organebau a geir weithiau mewn dyfroedd wyneb halogedig sydd wedi achosi problemau iechyd dynol yn cynnwys: Burkholderia pseudomallei, Cryptosporidium parvum, Giardia lamblia, Salmonela, norofeirws a firysau eraill, a'r llyngyr parasitig gan gynnwys y math Schistosoma.
Mae sylweddau organig sy'n mynd i mewn i gyrff dŵr yn aml yn wenwynig.
Mae sylweddau per- a polyfflworoalkyl (PFAS) yn llygryddion organig parhaus.
Mae llygryddion dŵr anorganig yn cynnwys:
Gall gwastraff solet fynd i mewn i gyrff dŵr trwy garthffosiaeth heb ei drin, gorlifiadau carthffosydd cyfun, dŵr ffo trefol, pobl yn taflu sbwriel i'r amgylchedd, gwynt yn cludo gwastraff solet trefol o safleoedd tirlenwi ac yn y blaen. Mae hyn yn arwain at lygredd macrosgopig - eitemau gweladwy mawr yn llygru'r dŵr - ond hefyd llygredd microblastigau nad yw'n uniongyrchol weladwy. Defnyddir y termau malurion morol a llygredd plastig morol yng nghyd-destun llygru cefnforoedd.
Mae llygredd dŵr wyneb yn cynnwys llygru afonydd, llynnoedd a chefnforoedd. Is-set o lygredd dŵr wyneb yw llygredd morol sy'n effeithio ar y cefnforoedd. Mae llygredd maetholion yn cyfeirio at halogiad gan ormodedd o faetholion.
Yn 2017, yn fyd-eang, nid oedd gan tua 4.5 biliwn o bobl lanweithdra a reolir yn ddiogel, yn ôl amcangyfrif gan y Rhaglen Monitro ar y Cyd ar gyfer Cyflenwi Dŵr a Glanweithdra. Mae diffyg mynediad at lanweithdra yn peri pryder ac yn aml yn arwain at lygredd dŵr, ee trwy'r arfer o ysgarthu agored: yn ystod glaw neu lifogydd, mae'r carthion dynol yn symud o'r ddaear lle cawsant eu rhoi i'r dyfroedd. Gall toiledau pwll syml hefyd orlifo yn ystod glaw.
Mae prosesau diwydiannol sy'n defnyddio dŵr hefyd yn cynhyrchu dŵr gwastraff. Gelwir hyn yn ddŵr gwastraff diwydiannol. Gan ddefnyddio'r Unol Daleithiau fel enghraifft, y prif ddefnyddwyr dŵr dyn y byd iwydiannol (gsefdros 60% yw gweithfeydd pŵer, purfeydd petrolewm, melinau haearn a dur, melinau mwydion a phapur, a diwydiannau prosesu bwyd. Mae rhai diwydiannau'n gollwng gwastraff cemegol, gan gynnwys toddyddion a metelau trwm (sy'n wenwynig) a llygryddion niweidiol eraill.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llygredd dŵr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.