Camau i gyfyngu ar newid hinsawdd yw lliniaru newid hinsawdd, drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu dynnu'r nwyon hynny o'r atmosffer.: 2239.
Yn llawnach, gellir hefyd ei alw'n lliniaru'r broses o newid yr hinsawdd. Mae’r cynnydd diweddar yn nhymheredd cyfartalog y Ddaear yn cael ei achosi’n bennaf gan allyriadau o losgi tanwydd ffosil (glo, olew, a nwy naturiol). Gall lliniaru leihau allyriadau trwy newid i ffynonellau ynni cynaliadwy, arbed ynni, a chynyddu effeithlonrwydd. Yn ogystal, gellir tynnu CO o'r atmosffer trwy ehangu coedwigoedd, adfer gwlyptiroedd a defnyddio prosesau naturiol a thechnegol eraill, sy'n cael eu grwpio gyda'i gilydd o dan y term dal a storio carbon.: 12
Un cam a gymerwyd i gyfyngu ar newid hinsawdd: fferm ynni Gwynt y Môr. Tynnwyd y llun o benrhyn Rhiwledyn ger Llandudno | |
Enghraifft o'r canlynol | maes gwaith, atal |
---|---|
Math | gweithredu, rheoli risg |
Rhan o | newid hinsawdd, gweithredu ar yr amgylchedd |
Yn cynnwys | Methane emissions mitigation, gwleidyddiaeth newid hinsawdd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ynni solar ac ynni gwynt sydd â'r potensial mwyaf i liniaru newid hinsawdd, am y gost lleiaf. Rhoddir sylw i argaeledd amrywiol haul a gwynt trwy storio ynni a gwell gridiau trydanol, gan gynnwys trawsyrru trydan pellter hir, rheoli galw ac arallgyfeirio ynni adnewyddadwy. Gan fod pŵer carbon isel ar gael ym mhobman, gall cludiant a gwresogi ddibynnu fwyfwy ar y ffynonellau hyn.: 1 Mae effeithlonrwydd ynni yn cael ei wella gan y defnydd o bympiau gwres a cherbydau trydan. Os oes rhaid i brosesau diwydiannol greu carbon deuocsid, gall dal a storio carbon leihau allyriadau net.
Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaethyddiaeth yn cynnwys llosgnwy (methan) yn ogystal ag ocsid nitraidd. Gellir eu lleihau trwy ffermio llai o wartheg.
Mae polisïau lliniaru newid hinsawdd yn cynnwys: prisio carbon trwy drethi carbon a masnachu allyriadau carbon, llacio rheoliadau ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy, gostyngiadau mewn cymorthdaliadau tanwydd ffosil, a dargyfeirio o danwydd ffosil, a chymorthdaliadau ar gyfer ynni glân. Amcangyfrifir y bydd polisïau presennol y Ddaear yn codi tymheredd y Ddaear tua 2.7 °C erbyn 2100. Mae'r cynhesu hwn yn sylweddol uwch na nod Cytundeb Paris 2016 o gyfyngu cynhesu byd-eang yn is na 2. °C ac yn ddelfrydol i lawr 1.5 °C.
Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn diffinio lliniaru (newid hinsawdd) fel "ymyriad dynol i leihau allyriadau neu wella sinciau nwyon tŷ gwydr".: 2239.
Gellir grwpio mesurau lliniaru i'r pedwar dosbarth canlynol.
Nod cyffredinol lliniaru newidiadau yn yr hinsawdd yw: “cadw biosffer a all gynnal gwareiddiad dynol a’r cymhlethdod o wasanaethau ecosystem sy’n ei amgylchynu a’i gefnogi. Mae hyn yn golygu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr anthropogenig (a grewyd gan bobl) tuag at sero net i gyfyngu ar y cynhesu hwn, gyda nodau byd-eang wedi'u cytuno yng Nghytundeb Paris."
Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o weithgareddau dynol yn cryfhau'r effaith tŷ gwydr, gan gyfrannu at newid hinsawdd. Carbon deuocsid yw'r rhan fwyaf, o losgi tanwydd ffosil: glo, olew a nwy naturiol. Mae allyriadau a achosir gan bobl wedi cynyddu carbon deuocsid atmosfferig tua 50% dros lefelau cyn-ddiwydiannol. Roedd allyriadau yn y 2010au ar gyfartaledd yn 56 biliwn tunnell y flwyddyn, sy'n uwch nag erioed.
Gellir cyfrifo allyriadau nwyon tŷ gwydr fesul sector mewn gwahanol ffyrdd. Mae dull sefydledig gan 'Ein Byd mewn Data' yn eu grwpio fel a ganlyn (data ar gyfer 2016):
Cynhyrchu trydan a thrafnidiaeth yw'r allyrwyr mawr, a’r ffynhonnell unigol fwyaf yw gorsafoedd pŵer sy’n llosgi glo sef 20% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae datgoedwigo a newidiadau eraill mewn defnydd tir hefyd yn allyrru carbon deuocsid a llosgnwy (methan). Y ffynhonnell fwyaf o allyriadau methan anthropogenig yw amaethyddiaeth, yn cael ei ddilyn yn agos gan awyru nwy ac allyriadau ffo o'r diwydiant tanwydd ffosil. Y ffynhonnell methan amaethyddol fwyaf yw da byw (gwartheg). Mae priddoedd amaethyddol yn gollwng ocsid nitraidd yn rhannol oherwydd gwrtaith ond ar y llaw arall, mae'r broblem o nwyon fflworinedig allan o oeryddion wedi'i ddatrys, nawr mae cymaint o wledydd wedi cadarnhau Gwelliant Kigali.
Yn 2020 roedd y cyfraddau allyriadau ar gyfartaledd yn 6.5 tunnell y person y flwyddyn (gydag amrywiadau mawr o un wlad i'r llall).
Carbon deuocsid (CO) yw'r prif nwy tŷ gwydr a allyrrir, tra bod gan llosgnwy (methan) (CH4) allyriadau sydd bron cynddrwg. Mae ocsid nitraidd (N 2 O) a nwyon fflworin (Nwyon-F) yn chwarae rhan fach.
Y system ynni yw prif allyrrydd CO.: 6–6 Felly mae lleihau allyriadau'r sector ynni yn hanfodol i gyfyngu ar gynhesu.: 6–6 Mae angen gostyngiadau cyflym yn lefel y CO a’r allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r system ynni er mwyn cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 2. °C.: 6–3 Mae'r mesurau a argymhellir yn cynnwys: "llai o ddefnydd o danwydd ffosil, mwy o gynhyrchiad o ffynonellau ynni carbon isel a di-garbon, a mwy o ddefnydd o drydan a chludwyr ynni amgen".: 6–3
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lliniaru newid hinsawdd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.