Tir gyda lefel uchel o ddŵr ynddo yw gwlyptir, a gall gynnwys mathau o rostiroedd fel a geir yng Nghymru, corsydd fel a welir ym Masn yr Amason neu fangrof le tyf coed.
Maent i'w cael ym mhob cyfandir ar wahân i Antarctica,
Ymhlith y planhigion a geir mewn gwlyptiroedd y mae: Acasia pren du ac Addurnwy ac maent yn werthfawr oherwydd y bywyd gwyllt cyfoethog sy'n byw ynddynt.
Ar adegau, creir gwlyptiroedd yn fwriadol gan ddyn er mwyn rheoli dŵr.
Yng Nghymru mae rhai o'r gwlyptiroedd iseldir gorau yn Ewrop: 11 ohonynt wedi cael eu diogelu fel safleoedd sy'n cael eu gwarchod gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ar un adeg roedd gwlyptiroedd yn gyffredin ond mae draenio ac amaethyddiaeth wedi lleihau'r nifer o gorsydd. Mae'r amodau asidig a gwlyb yn creu mawn sydd wedi adeiladu, haen ar haen, dros y 10,000 o flynyddoedd, gan gloi carbon a'n helpu i leihau nwyon tŷ gwydr, ond gall difrod i'r cynefinoedd hyn ryddhau'r carbon hwn ac achosi iddynt sychu. Maen gwlyptiroedd Cymru hefyd yn baradwys i fywyd gwyllt, yn gyfoethog mewn planhigion, pryfed ac adar. Rheolir y cynefinoedd hyn er mwyn amddiffyn y bywyd gwyllt; mae gwlyptiroedd hefyd yn amddiffyn trefedigaethau rhag llifogydd a newid yn yr hinsawdd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwlyptir, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.