Lil Nas X

Rapiwr, canwr a chyfansoddwr Americanaidd yw Lil Nas X, a anwyd ar 9 Ebrill 1999; ei enw gwreiddiol yw Montero Lamar Hill.

Daeth yn enwog trwy ryddhau'r sengl rap gwledig "Old Town Road", a ddaeth i boblogrwydd yn firol yn gyntaf ar yr app TikTok yn gynnar yn 2019, cyn dringo siartiau cerddoriaeth yn rhyngwladol. Erbyn Tachwedd yr un flwyddyn gwerthodd dros 10 miliwn gopi.

Lil Nas X
Lil Nas X
FfugenwLil Nas X Edit this on Wikidata
GanwydMontero Lamar Hill Edit this on Wikidata
9 Ebrill 1999 Edit this on Wikidata
Lithia Springs Edit this on Wikidata
Label recordioRCA Records, Columbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Lithia Springs
  • Prifysgol Gorllewin Georgia Edit this on Wikidata
Galwedigaethrapiwr, canwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOld Town Road Edit this on Wikidata
Arddullhip hop, country rap, cerddoriaeth boblogaidd, trap music, pop rap Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Gerdd america am yr Hoff Gân Rap/Hip-Hop, Gwobr Grammy am y Perfformiad Pop Dau Berson neu Grwp Gora, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, MTV Video Music Award for Best Direction, Teen Choice Award for Choice Music – R&B/Hip-Hop Song, MTV Europe Music Award for Best Video, Gwobr Time 100, Premios Odeón Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.welcometomontero.com/ Edit this on Wikidata

Cyrhaeddodd "Old Town Road" top y siart Billboard Hot 100 ac arhosodd yno am 19 wythnos, yn dod y gân rhif un hiraf ers i'r siart dechrau ym 1958. Rhyddhawyd sawl ailgymysgiad o’r gân: roedd y mwyaf poblogaidd yn cynnwys y canwr gwlad Billy Ray Cyrus. Cyhoeddodd Lil Nas X ei fod yn hoyw pan oedd "Old Town Road" ar frig y siart Hot 100, yr unig ganwr i wneud hynny wrth gael record rhif un. Yn dilyn llwyddiant "Old Town Road", rhyddhaodd Nas X ei EP cyntaf, o'r enw 7, a rhyddhaodd ddwy sengl arall⁠. Cafodd "Panini" ei uchafbwynt yn rhif 5 ar y siart Hot 100, a chafodd "Rodeo" ei uchafbwynt yn rhif 22.

Lil Nas X

Lil Nas X oedd yr artist gwrywaidd i gael y mwyaf o enwebiadau yn y 62ain Gwobrau Grammy. Enillodd wobrau am y Fideo Cerddoriaeth Orau a'r Perfformiad Deuawd Pop / Grŵp Pop Gorau. Enillodd "Old Town Road" ddwy Wobr Cerddoriaeth Fideo MTV gan gynnwys Cân y Flwyddyn a Gwobr Cerddoriaeth America am Hoff Gân Rap / Hip Hop. Ef yw'r artist LHDT cyntaf, a'r unig artist sy'n agored yn hoyw i ennill gwobr Cymdeithas Cerddoriaeth Gwlad. Gwnaeth Time ei henwi fel un o'r 25 o bobl fwyaf dylanwadol ar y rhyngrwyd yn 2019. Yn ogystal, cafodd sylw ar restr Forbes 30 dan 30 yn 2020.

Gyrfa

2015–2017: Personoliaeth Rhyngrwyd

Dechreuodd ynysu ei hun rhag "gweithgareddau y tu allan i'r dosbarth" yn ystod ei arddegau. Treuliodd lawer iawn o amser ar-lein yn y gobaith o adeiladu dilyniant fel personoliaeth rhyngrwyd i hyrwyddo ei waith, ond roedd yn ansicr beth i ganolbwyntio arno'n greadigol. Mewn cyfweliad Rolling Stone nododd, "Roeddwn i'n gwneud fideos comedi ar Facebook, yna symudais draw i Instagram, ac yna mi wnes i neidio ar Drydar... lle roeddwn i wir yn feistr. Dyna oedd y lle cyntaf i mi fynd yn firol." Erbyn Awst 2019 roedd gan Lil Nas X 2.3 miliwn o ddilynwyr ar Drydar; pedair miliwn o ddilynwyr ar Instagram; 5.2 miliwn o danysgrifwyr ar YouTube, a thros 44 miliwn o wrandawyr misol ar Spotify.

Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth greu a rhedeg cyfrifon ffan Nicki Minaj ar Drydar, gan gynnwys un o'r enw "@NasMaraj", yn ôl ymchwiliad yn y cylchgrawn New York.

Yna, daeth gerddoriaeth yn llwybr i lwyddiant ar gyfer Lil Nas X, a dechreuodd ysgrifennu a recordio caneuon yn ei stafell. Mabwysiadodd yr enw Lil Nas X, sy'n deyrnged i'r rapiwr Nas.

2018-2019: Llwyddiant "Old Road Town" a'r EP 7

Ar 3 Rhagfyr 2018, rhyddhaodd Lil Nax X y gân rap gwlad "Old Town Road". Prynodd e guriad (beat) y gân yn ddienw ar sion ar-lein gan y cynhyrchydd o'r Iseldiroedd YoungKio am $30; mae'n samplu trac Nine Inch Nails "34 Ghosts IV". Fe recordiodd mewn stiwdio Atlanta, CinCoYo, yn cymryd mantais o'i chynnig "$20 Tuesdays", a chymerodd llai nag awr i'w recordio. Dechreuodd Lil Nas X greu memes i hyrwyddo "Old Town Road" cyn daeth yn boblogaidd ar TikTok. Mae TikTok yn annog ei 500 miliwn o ddefnyddwyr byd-eang i "ddynwared yn ddiddiwedd," gyda fideos yn cynhyrchu copïau fel arfer yn defnyddio'r un gerddoriaeth; mae'r ffaith bod yr ap yn allbynnu gymaint o gynnwys yn gweithredu helpu magu llwyddiannau cerddoriaeth firaol. Dechreuodd yn rhif 83 ar siart Billboard Hot 100, a ddringodd i rif un yn y pen draw.

Cefnogodd y seren cerddoriaeth gwlad Billy Ray Cyrus "Old Town Road", a daeth yn ganwr gwadd mewn ailgymysgiad o'r trac yn Ebrill 2019.

Rhyddhaodd Lil Nas X ei EP cyntaf, 7, ar 21 Mehefin 2019. Aeth yr EP i rif dau ar siart Billboard 200. Ar 30 Mehefin, gwnaeth Nas X ei ymddangosiad cyntaf yn rhyngwladol yng ngŵyl awyr agored mwyaf y byd, Gŵyl Glastonbury flynyddol y DU, pan wnaeth ef a Billy Ray Cyrus ymddangosiad annisgwyl ac ymuno â Miley Cyrus ar gyfer y gân, cyn perfformio ei sengl unawd newydd "Panini".

Bywyd Personol

Ganwyd Montero Lamar Hill yn Lithia Springs, Georgia, dinas fach y tu allan i Atlanta, ar 9 Ebrill 9 1999. Ysgarodd ei rieni pan oedd yn chwech oed, ac ymgartrefodd ym mhrosiect tai Bankhead Courts gyda'i fam a'i nain. Tair blynedd yn ddiweddarach, symudodd i fyw gyda'i dad, canwr efengyl, i'r gogledd o'r ddinas yn Austell, Georgia. Mynychodd Ysgol Uwchradd Lithia Springs a graddiodd yn 2017. Mynychodd Brifysgol Gorllewin Georgia am flwyddyn cyn gadael i ddilyn gyrfa gerddorol. Yn ystod yr amser hwn, arhosodd gyda'i chwaer a gweithiodd ym mwytai Zaxby ac ym mharc thema Six Flags Over Georgia.

Yn gynnar ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd Lil Nas X ei fod yn hoyw i'w chwaer a'i dad, ac roedd yn teimlo bod y bydysawd wedi rhoi arwyddo iddo wneud hynny er gwaethaf ei ansicrwydd a fyddai ei gefnogwyr yn dal i'w gefnogi ai peidio. Ar 30 Mehefin, 2019, diwrnod olaf y Mis Balchder Hoyw, cyhoeddodd Lil Nas X yn gyhoeddus ei fod yn hoyw, gan drydar: "mae rhai o'r bobl eisoes yn gwybod, nid yw rhai o'r bobl yn poeni, bydd rhai ohonoch ddim wedi eisiau unrhyw beth i wneud gyda fi rhagor. ond cyn i'r mis hwn ddod i ben rydw i eisiau i chi wrando'n agos ar c7osure. Y diwrnod nesaf fe drydarodd eto, y tro hwn yn tynnu sylw at yr adeilad lliw enfys ar gelf clawr ei EP 7, gyda'r pennawd yn darllen "roeddwn yn meddwl fy mod wedi ei wneud yn amlwg". Mewn cyfweliad sawl diwrnod yn ddiweddarach ar BBC Breakfast roedd llawer llai amwys, nododd ei fod yn hoyw ac yn deall nad yw ei rywioldeb yn cael ei dderbyn yn hawdd yn y cymunedau cerddoriaeth gwlad na rap. Roedd yr ymateb i'r newyddion yn gadarnhaol ar y cyfan, ond hefyd cafodd llawer o adlach homoffobig ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth yr adlach hefyd o'r gymuned hip hop, gan dynnu sylw at homoffobia mewn diwylliant hip hop. Ym mis Ionawr 2020, gwnaeth y rapiwr Pastor Troy rai sylwadau homoffobig ar y wisg a wisgodd Lil Nas X yn ystod y Gwobrau Grammy, ac ymatebodd Nas X iddo'n ddigyffro: "Dam rwy'n edrych yn dda yn y llun hwnnw."

Cyfeiriadau

Tags:

Lil Nas X GyrfaLil Nas X Bywyd PersonolLil Nas X CyfeiriadauLil Nas X19999 EbrillRapioTikTok

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Richard Richards (AS Meirionnydd)Napoleon I, ymerawdwr FfraincLeo The Wildlife RangerPsilocybinBlaengroenStorio dataGlas y dorlanStuart SchellerBatri lithiwm-ionTrawstrefaCyfrifegCyfathrach Rywiol FronnolL'état SauvageSAnialwchGwyddor Seinegol RyngwladolBeti George2024BasauriMihangelAriannegFack Ju Göhte 3LlwynogMeilir GwyneddCapybaraGweinlyfuPysgota yng NghymruCastell y BereSupport Your Local Sheriff!Ruth MadocHanes IndiaYsgol Gynradd Gymraeg BryntafmarchnataHomo erectusAngharad MairEtholiad Senedd Cymru, 2021Pont BizkaiaCadair yr Eisteddfod GenedlaetholYsgol RhostryfanUndeb llafurFietnamegDeux-SèvresSiôr I, brenin Prydain FawrIn Search of The CastawaysAlien (ffilm)Cytundeb KyotoCymryBlaenafonWdigClewerDrudwen fraith AsiaTŵr EiffelArchaeolegGarry KasparovOlwen ReesHarold LloydThe Wrong NannyBarnwriaethTimothy Evans (tenor)Myrddin ap DafyddCaethwasiaethWreterArchdderwyddCelyn JonesBlodeuglwm🡆 More