Pêl-droediwr o Colombia yw James Rodríguez (ganwyd James David Rodríguez Rubio ar 12 Gorffennaf 1991), sy'n chwarae i AS Monaco yn Ligue 1 yn Ffrainc ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Colombia.
Rodríguez yn chwarae dros Colombia yng Nghwpan y Byd 2014 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | James David Rodríguez Rubio | ||
Dyddiad geni | 12 Gorffennaf 1991 | ||
Man geni | Cúcuta, Colombia | ||
Taldra | 1.80m | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Real Madrid | ||
Rhif | 10 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1995–2007 | Envigado | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2007–2008 | Envigado Fútbol Club | 30 | (9) |
2008–2010 | Banfield | 42 | (5) |
2010–2013 | Porto | 63 | (25) |
2013-2014 | AS Monaco FC | 34 | (9) |
2014- | Real Madrid | 24 | (11) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2007 | Colombia dan 17 | 11 | (3) |
2011 | Colombia dan 20 | 5 | (3) |
2011– | Colombia | 27 | (11) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 22 Awst 2014. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Dechreuodd ei yrfa gydag Envigado FC yn ail adran Colombia cyn arwyddo i Club Atlético Banfield yn Yr Ariannin yn 2008. Wedi dau dymor yn Yr Ariannin, dechreuodd ddenu sylw clybiau Ewrop gydag Udinese o'r Eidal yn cael cynnig o €5m wedi ei wrthod gan yr Archentwyr.
Ond ar 6 Gorffennaf 2010 arwyddodd Rodríguez i FC Porto o Bortiwgal am €5.1m. Llwyddodd i ennill tair pencampwriaeth Primeira Liga a Chynghrair Europa 2010-11 ym Mhortiwgal cyn symud i AS Monaco am €45m ar 24 Mai 2013 lle'r roedd yn ymuno â'i gyda chwaraewr o Golombia, Radamel Falcao.
Yn 2014 llwyddodd i ennill yr Esgid Aur yng Nghwpan y Byd gyda 6 gôl ac ar 22 Gorffennaf cyhoeddodd Real Madrid eu bod wedi ei arwyddo o Monaco am ffi o €80m..
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article James Rodríguez, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.