Awdures o Tsile yw Isabel Allende Llona (ganwyd 2 Awst 1942 yn Lima, Periw).
Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brofiadau menywod ac mae hi'n cymysgu realaeth a dychymyg i greu realaeth hudol (Magical Realism). Ymhlith ei gwaith mwyaf nodedig mae The House of the Spirits (La casa de los espíritus, 1982) a City of the Beasts (La ciudad de las bestias, 2002), a oedd hefyd yn llwyddiant o ran gwerthiant y llyfrau. Credir mai Allende yw'r "awdur sydd wedi gwerthu mwyaf o lyfrau Sbaeneg o'i chenehedlaeth".
Isabel Allende | |
---|---|
Ganwyd | 2 Awst 1942 Lima |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Tsile |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llais, sgriptiwr, awdur plant, nofelydd, ysgrifennwr |
Adnabyddus am | Tŷ'r Ysbrydion, Zorro, A Long Petal of the Sea |
Arddull | nofel, nofel fer |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Mudiad | ffeministiaeth, realaeth hudol |
Priod | Miguel Frías, Willie Gordon |
Plant | Paula Frías Allende, Nicolás Frías Allende |
Perthnasau | Salvador Allende, Laura Allende, Ramón Huidobro Domínguez |
Gwobr/au | Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Hans Christian Andersen Literature Award, Neuadd Enwogion California, Gwobrau Llyfrau Americanaidd, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, doctor honoris causa, Gwobr 100 Merch y BBC, Premio Iberoamericano de Letras José Donoso, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Alcalá City Awards, honorary doctor of the University of Santiago, Chile, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Library of Congress Prize for American Fiction, Great Immigrants Award, WILLA Literary Award |
Gwefan | http://www.isabelallende.com |
Ganwyd Isabel Allende yn Lima, Periw, am fod ei thad, Tomás Allende; yn llysgennad Tsile i Periw. Cefnder ei thad oedd Salvador Allende, Arlywydd Tsile o 1970 i 1973. Yn 1945, symudodd y teulu yn ôl i Santiago, Tsile, tan 1953 pan ailbriododd ei mam hi i Ramón Huidobro (diplomydd arall) a symudon nhw i Bolifia, a Beirut cyn dychwelyd i Tsile yn 1958.
Priododd Miguel Frías yn 1962, a tan 1965 bu Allende yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig. Cawson nhw ferch yn 1963 a mab yn 1966. Cyflawnodd waith mam, diplomydd. Erbyn 1988, priododd Allende ag Americanwr, Willie Gordon. Daeth yn ddinesydd yr UDA yn 2003. Erbyn heddiw mae hi'n byw yn San Rafael, California.
Trosiadau i'r Gymraeg:
Gweithiau eraill:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Isabel Allende, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.