Cemegydd disgleiriaf ei genhedlaeth, yn ôl llawer, oedd Humphrey Owen Jones (20 Chwefror 1878 - 15 Awst 1912).
Yng Ngoginan, Ceredigion y cafodd ei eni cyn symud gyda'r teulu i Lynebwy. O Brifysgol Aberystwyth aeth ymlaen i Goleg Clare, Prifysgol Caergrawnt. Ei faes arloesol oedd y modd mae atomau'n gweithio mewn moleciwl. Roedd yn awdurdod ar stereocemeg nitrogen. Roedd hefyd yn fynyddwr o fri.
Humphrey Owen Jones | |
---|---|
Ganwyd | 20 Chwefror 1878 Goginan |
Bu farw | 12 Awst 1912 Mont Blanc |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dringwr mynyddoedd, cemegydd |
Cysylltir gyda | Y Lliwedd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Priododd Muriel (nee Edwards) o Fangor, Gwynedd a oedd hithau'n gemegydd. Ar ganol gwyliau mynydda yn yr Alpau, disgynodd y ddau i'w marwolaeth.
Roedd yn ddringwr creigiau a mynyddwr brwd. Yng Nghymru arloesodd ar sawl clogwyn yn Eryri, yn enwedig ar Y Lliwedd. Roedd ei chwaer, Bronwen Ceridwen Jones (Mawson yn ddiweddarach), yn ddringwraig hefyd. Roedd yn aelod o bwyllgor y Climbers' Club.
Dringai yn yr Alpau hefyd. Gyda Karl Blodig, Geoffrey Winthrop Young a'r tywysydd Joseph Knubel ef oedd y cyntaf i ddringo crib Brouillard i gopa Mont Blanc ar 9 Awst 1911. Fforiodd ardal Mont Blanc yn drwyadl a bu'n gyfrifol am sefydlu sawl llwybr dringo newydd yno. Yn 1909 cafodd ei ethol yn aelod o'r Alpine Club dethol a chyfranodd sawl erthygl i gylchgronau'r clwb hwnnw a'r Climbers' Club hefyd.
Lladdwyd Jones a'i wraig wrth ddringo copa'r Aiguille Noire de Peuterey yn ardal Mont Blanc ar 15 Awst 1912. Syrthiodd y tywysydd ar Jones a syrthiodd y tri ohonynt 1,000 troedfedd i Rewlif Fresnay. Cawsant eu claddu yn Courmayeur. Enwyd copa gogleddol yr Aiguille Blanche de Peuterey yn La Pointe Jones er cof amdano.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Humphrey Owen Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.