Cangen o wyddoniaeth o fewn ffiseg, ac yn benodol thermodynameg, yw peirianneg gemegol.
Mae'n cymhwyso'r gwyddorau ffisegol a bywyd ynghyd â mathemateg gymhwysol ac economeg i gynhyrchu, trawsnewid a defnyddio cemegolion. Mae'r gwyddorau ffisegol yn cynnwys ffiseg a chemeg a gwyddorau bywyd yn cynnwys microbioleg a biocemeg. Gwaith y peiriannydd cemegol, mewn gwirionedd, yw cynllunio ar raddfa fawr prosesau sy'n trawsnewid cemegolion, defnyddiau craidd, celloedd byw, micro-organebau ac ynni yn gynnyrch defnyddiol.
Enghraifft o'r canlynol | Gwyddoniaeth gymhwysol, cangen o fewn cemeg, pwnc gradd, cangen o beirianneg, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | Peirianneg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tad peirianneg gemegol oedd George E. Davis a ddysgodd y pwnc yng Ngholeg Owens, Manceinion (bellach, Victoria University of Manchester) ac a sgwennodd History of Science in United States: An Encyclopedia yn 1890. Ef hefyd a fathodd y term chemical engineering yn Saesneg. Tua'r un pryd, dysgwyd y pwnc yn MIT yn Unol Daleithiau America a hefyd yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Peirianneg gemegol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.