Ffisegydd o Gwmsychbant ger Llanwenog, Ceredigion, oedd Evan James Williams (8 Mehefin 1903 – 29 Medi 1945).
Codwyd cofeb iddo ar y tŷ lle'i ganed gan y Sefydliad Ffiseg. Aeth i'r coleg i Abertawe, a'i ddoethuriaeth wedyn ym Manceinion gan ymchwilio i wasgariad Pelydr-X. Yn ôl Syr John Meurig Thomas Williams oedd "un o'r bobl mwyaf galluog a gynhyrchodd Cymru erioed".
Evan James Williams | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1903 Cwmsychbant |
Bu farw | 1945 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffisegydd |
Cyflogwr |
Yn Labordy Cavendish bu'n gweithio gydag Ernest Rutherford. Cyflwynodd dystiolaeth o ragdybiaethau theori cwantwm. Fe'i penodwyd i Brifysgol Lerpwl ac yn 1938 daeth yn Athro Ffiseg yn Aberystwyth. Yn dilyn datblygiadau pwysig ym maes ffiseg gronynnau, ac yn dilyn darganfod y pi-on gan Hideki Yukawa, ceisiodd Williams brofi eu bodolaeth. Yn 1940 profodd fod y gronyn yn dadelfennu (ac mae'n cael ei adnabod bellach fel 'mwon'). Cynhaliwyd yr arbrofion hyn mewn seler yn yr Hen Goleg, Aberystwyth.
Yn ystod y rhyfel arbrofodd gyda dyfnder ffrwydro bomiau llongau tanfor.
Bu farw o gancr yn ddim ond 42 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Evan James Williams, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.