Prif dref ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Glynebwy, weithiau Glyn Ebwy (Saesneg: Ebbw Vale).
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 18,558 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7779°N 3.2117°W |
Cod OS | SO165095 |
Cod post | NP23 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Alun Davies (Llafur Cymru) |
AS/au | Nick Smith (Llafur) |
Roedd gan ardal drefol Glynebwy boblogaeth o 33,343 yn ôl amcangyfrif swyddogol cyfrifiad 2020.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).
Yn y 2010au datblygwyd safle'r hen waith dur, ac yn 2010, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yno. Mae'r datblygiad yn cynnwys cartrefi, safle manwerthu, swyddfeydd, gwlypdir, ysbyty newydd (Ysbyty Aneurin Bevan) a mwy yn cael eu lleoli ar y safle.
Fe wnaeth yr Ŵyl Garddio Genedlaethol Cymru denu dros ddwy filiwn o bobl i Lynebwy ym 1992.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy ym 1958. Fe'i chynhaliwyd yn y dref yn 2010 hefyd (gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010).
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 347 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 309 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 262 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.
Arferai bod clwb pêl-droed safon uwch Cymru yn y dref. Roedd C.P.D. Glyn Ebwy yn gymharol llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au, ond daeth y clwb i ben yn 1998.
Trefi
Abertyleri · Blaenau · Bryn-mawr · Glynebwy · Tredegar
Pentrefi
Aber-bîg · Brynithel · Cendl · Cwm · Cwmtyleri · Chwe Chloch · Llanhiledd · Nant-y-glo · Rasa · St Illtyd · -->Swffryd · Tafarnau-bach · Trefil · Y Twyn · Waun-lwyd
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Glynebwy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.