Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Abertyleri (Saesneg: Abertillery).
Saif y dref 16 mi i'r Gogledd-orllewin o Gasnewydd, ar y Great Western Railway yn wreiddiol. Cododd ei phoblogaeth yn dra chyflym yn ystod y cyfnod o ddatblygu mwyngloddio yn Ne Cymru, gyda 10,846 o breswylwyr yn ôl Cyfrifiad 1891 ac wedyn i 21,945 ddeng mlynedd diweddarach. Yn gorwedd yn yr ardal fwyngloddio fynyddig o'r hen siroedd o Sir Fynwy a Sir Forgannwg, yng nghwm Ebwy Fach, roedd y preswylwyr fel arfer yn gweithio yn y glofeydd, gwaith haearn, a gwaith tunplat.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 11,601 |
Gefeilldref/i | Royat |
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,873.92 ha |
Cyfesurynnau | 51.73°N 3.13°W |
Cod SYG | W04000924 |
Cod OS | SO215045 |
Cod post | NP13 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Alun Davies (Llafur Cymru) |
AS/au | Nick Smith (Llafur) |
Mae sawl ysgol gynradd fach, ysgol uwchradd, a chanol tref traddodiadol gan Abertyleri. Heddiw, mae poblogaeth o 11,528 ganddi, ac yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 7% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg; mae 297 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 263 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 247 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 10.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.
Yn 2003, roedd tai rhataf y Deyrnas Unedig yn Abertyleri yn ôl arolwg y Halifax, gyda phris cyfartalog o £37,872. Yn boblogaidd oherwydd ei golygfeydd gwledig, mae'r ardaloedd o Aber-bîg, Llanhiledd, Cwmtyleri, a Chwe Chloch ar ei phwys.
Mae'r enw'n ymddangos gyntaf mewn argraffiad ym 1779, a tharddiad y gair yw "Aber" (ceg afon) ac enw'r afon fechan "Teleri" a ymddangosodd gyntaf ym 1332. Mae'r gair hwnnw hefyd yn air cyfansawdd, sef "tŷ" ac "Eleri" (enw person).
Roedd coedwig enfawr gerllaw'r dref ers talwm o'r enw Glyn Teleri, ond Cwmtyleri ydy'r enw sydd bellach ar yr ardal hon.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Abertyleri · Blaenau · Bryn-mawr · Glynebwy · Tredegar
Pentrefi
Aber-bîg · Brynithel · Cendl · Cwm · Cwmtyleri · Chwe Chloch · Llanhiledd · Nant-y-glo · Rasa · St Illtyd · -->Swffryd · Tafarnau-bach · Trefil · Y Twyn · Waun-lwyd
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Abertyleri, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.