Cyfnod o wrthdaro ethno-wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon oedd yr Helyntion (Saesneg: The Troubles, Gwyddeleg: Na Trioblóidí) a barhaodd o ddiwedd y 1960au hyd Gytundeb Gwener y Groglith ym 1998, er bod ychydig o drais ers hynny.
Tair carfan y gwrthdaro oedd lluoedd diogelwch y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, gweriniaethwyr Gwyddelig (gan gynnwys yr IRA) a'r Unoliaethwyr (gan gynnwys yr UDF a'r UDA). Brwydrodd y gweriniaethwyr a'r Unoliaethwyr dros statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon, a cheisiodd lluoedd diogelwch y ddwy wladwriaeth dawelu'r ymladd (er bod cyhuddiadau bod rhywfaint o gymorth gan Weriniaeth Iwerddon i'r gweriniaethwyr, a chan y DU i'r Unoliaethwyr).
Enghraifft o'r canlynol | sectarian violence, Gwrthdaro ethnig |
---|---|
Dyddiad | 1998 |
Lladdwyd | 3,532 |
Dechreuwyd | 1960s |
Daeth i ben | 1998 |
Lleoliad | Gogledd Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu brwydro ar draws Gogledd Iwerddon, yn enwedig yn y brifddinas Belffast, rhwng y cymunedau Catholig, a oedd ar y cyfan yn cefnogi'r gweriniaethwyr, a'r cymunedau Protestannaidd, a oedd ar y cyfan yn gefnogol o'r Unoliaethwyr. Bu'r gwrthdaro hefyd yn ymledu i weddill y Deyrnas Unedig ac i Weriniaeth Iwerddon ar ffurf terfysgaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Helyntion, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.