Gair Mwys yw y math o dechneg sy'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o jôc gan amlaf.
Mae llawer o'r rhain yn jôcs un llinell, bachog. Fel arfer, gair mwys yw pan mae gair â dwy ystyr yn mynd i mewn i frawddeg lle mae'r ystyron yn eglur o'r ddau safbwynt. Pethau fel:
Mae geiriau mwys yn bethau cyffredin iawn mewn penawdau papur newydd. Maent yn cael eu defnyddio yn aml i ddal sylw y darllenydd gyda rhyw chwarae ar eiriau. Defnyddiodd bapur newydd y Negesydd un pan ddywedasant:
Mae'n hawdd gweld sut mae papurau newydd yn dal sylw pobl felly, a gellir defnyddio geiriau mwys mewn sawl ffordd wahanol iawn.
Mae'r gair mwys yn boblogaidd yn y byd hysbysebu. Os oes eisiau i gael cwsmeriaid neu i ddenu pobl, yna mae'r dechneg yn gallu gweithio'n effeithiol. Dyma un gan siop awyr agored i werthu pebyll:
'Now is the discount of our winter tents'
Wrth gwrs, yn y fan yma mae'n newid llinell William Shakespeare 'Now is the winter of our discontent'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gair mwys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.