Ffurf hanesyddol gynharaf yr iaith Saesneg yw Hen Saesneg (Ænglisc, Anglisc, neu Englisc) neu Eingl-Sacsoneg a siaredid yn Lloegr ac yn ne a dwyrain yr Alban yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar.
Cafodd y iaith ei gludo i Brydain gan ymfudwyr Eingl-Sacsonaidd tua chanol y 5g, ac mae'r gweithiau hynaf yn llenyddiaeth Saesneg yn dyddio o ganol y 7g. Wedi'r Goncwest Normanaidd yn 1066, disodlwyd Saesneg, am gyfnod, fel iaith yr uchelwyr yn Lloegr gan yr Eingl-Normaneg. Mae hyn yn nodi diwedd cyfnod yr Hen Saesneg, pan ddylanwadwyd yn gryf ar Saesneg gan Eingl-Normaneg gan ddatblygu'r ffurf a elwir bellach yn Saesneg Canol.
Datblygodd Hen Saesneg o dafodieithoedd Eingl-Ffriseg neu Ingfaeonig a siaredid yn gan lwythau Germanaidd a adwaenid yn draddodiadol fel yr Eingl, y Sacsoniaid a'r Jiwtiaid. Wrth i'r Eingl-Sacsoniaid ddod i dra-arglwyddiaethu yn Lloegr, bu farw'r iaith Frythoneg a thafodiaith Lladin Prydeinig yn y wlad. Pedair prif dafodiaith oedd i Hen Saesneg a gysylltir â rhai o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsonaid: Mersia, Northymbria, Caint, a Wessex. Tafodiaith Wessex, neu Sacsoneg Orllewinol, oedd sail y ffurf lenyddol safonol yng nghyfnod diweddar yr Hen Saesneg er y byddai ffurfiau amlycaf Saesneg Canol a Diweddar yn datblygu'n bennaf o dafodiaith Mersia. Dylanwadwyd yn gryf ar iaith dwyrain a gogledd Lloegr gan Hen Norseg o ganlyniad i wladychiad gan y Llychlynwyr o'r 9g ymlaen.
Un o'r ieithoedd Germanaidd Gorllewinol ydy Hen Saesneg, sy'n perthyn agosaf at Hen Ffriseg ac Hen Sacsoneg. Megis yr hen ieithoedd Germanaidd eraill, mae'n wahanol iawn i Saesneg Diweddar ac yn anodd i siaradwyr Saesneg Diweddar ei deall heb ei hastudio. Mae gramadeg Hen Saesneg yn debyg i ramadeg Almaeneg Diweddar: mae sawl ffurf a therfyniad ffurfdroadol i enwau, ansoddeiriau, rhagenwau a berfau, ac mae trefn y geiriau yn llawer mwy rhydd. Ysgrifennwyd yr arysgrifau hynaf yn Hen Saesneg mewn llythrennau rwnig, ond tua'r 9g ymlaen disodlwyd y system honno gan ffurf ar yr wyddor Ladin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hen Saesneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.