Beowulf

Arwrgerdd Hen Saesneg (iaith yr Eingl-Sacsoniaid) yw Beowulf, sy'n 3182 llinell gyflythrennol o ran hyd.

Caiff y gerdd ei chyfrif fel y gerdd bwysicaf yn llenyddiaeth Hen Saesneg.

Beowulf
Tudalen gyntaf llawysgrif Beowulf

Hanes testunol

Cedwir testun Beowulf mewn llawysgrif sy'n dyddio o tua dechrau'r 11g, ond credir gan mwyafrif o feirniadau i'r gerdd gyrraedd ei ffurf bresennol rhywbryd cyn hynny. Dichon fod hyn yn ddiwedd proses o drosglwyddo ar lafar ond ni ellir gwybod hyn i sicrwydd. Fe'i hystyrir yn un o'r cerddi Hen Saesneg pwysicaf. Cyfansoddwyd y gerdd gan feirdd anhysbys yn Nwyrain Anglia, Lloegr o bosibl, gan gyrraedd ei ffurf bresennol rywbryd rhwng y 7fed a'r 10g OC, ond fe'i lleolir yng nghymdeithas arwrol Llychlyn fel yr oedd hi cyn i'r Eingl-Saeson groesi'r môr. Y gred gyffredinol yw fod rhai o'r cymeriadau sydd yn y gerdd (e.e. y Brenin Hroðgar a'r Scyldings) yn bobl go-iawn, o gig a gwaed a oedd yn trigo yn y gwledydd Sgandinafaidd yn y 6g.

Disgrifiad

Mae'n dechrau trwy ddisgrifio cynhebrwng Scyld Scefing, un o arwyr mawr y Daniaid, cyn fynd ymlaen adrodd hanes yr arwr Beowulf yn ymladd yr anghenfil Grendel gan ei ladd. Mae mam Grendel wedyn yn ymosod arno ac mae Beowulf yn ei lladd hithau. Aiff adre'n arwrol ac yn fuddugoliaethus i Geatland yn Sweden. Ar ôl hanner can mlynedd, mae'n ymladd draig ac yn ei lladd ond caiff ei glwyfo'n angheuol wrth wneud hynny a chaiff ei gladdu gan ei gyfeillion yng ngolwg y môr. Er mai Beowulf yw prif cymeriad y gerdd, mae hi hefyd yn cynnwys nifer o ffigyrau a straeon eraill. Mae llawer o gymeriadau a llwythi sydd yn y gerdd hefyd i'w canfod mewn llenyddiaeth Sgandinafaidd e.e. Healfdene, Hroðgar, Halga, Hroðulf, Eadgils ac Ohthere), y llwythi Scyldings, Scylfings a'r Wulfings a rhai digwyddiadau megis y Frwydr ar Rew Llyn Vänern.

Llyfryddiaeth

Cafwyd nifer o argraffiadau o'r testun gwreiddiol dros y blynyddoedd a sawl cyfieithiad i Saesneg Diweddar a rhai ieithoedd eraill. Ceir cyfieithiad mydryddol Saesneg hwylus yn y gyfres Penguin Classics:

  • Michael Alexander (cyf.), Beowulf (Penguin, 1973; sawl argraffiad arall ers hynny)

Golygiad safonol o'r testun yw:

  • Friedrich Klaeber (gol.), Klaeber's Beowulf (2008; 4ydd argraffiad)

Ffilm

Cafodd ei gwneud yn ffilm yn 2007, gyda brodorion ynys Prydain (y Brythoniaid) yn siarad Saesneg gydag acen Gymraeg.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Beowulf Hanes testunolBeowulf DisgrifiadBeowulf LlyfryddiaethBeowulf FfilmBeowulf CyfeiriadauBeowulf Dolenni allanolBeowulfArwrgerddCyflythreniadEingl-SacsoniaidHen Saesneg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

TsiadRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonWicipedia Cymraeg1956Carles PuigdemontSendaiMyrddinCedorYr AlmaenOsteoarthritisFabiola de Mora y AragónCwinestrolVurğun OcağıDavid T. C. DaviesNedwSlofaciaUsenetNewham (Bwrdeistref Llundain)Jacob van RuisdaelMwcwsDemolition ManDe AffricaRhyfel yr Undeb Sofietaidd yn AffganistanStyx (lloeren)Dydd Iau CablydWikipediaPornoramaRhyfel Annibyniaeth AmericaCristiano RonaldoGweriniaeth Ddemocrataidd CongoTîm Pêl-droed Cenedlaethol RwsiaGwilym TudurMorfydd E. OwenPwyllgor TrosglwyddoY PhilipinauTîm Pêl-droed Cenedlaethol CroatiaRhydychen1833RHEBWiciRhyw rhefrolRhyfel Gaza (2023‒24)CernywegWashington County, OregonEbrillGolffFfŵl EbrillUnol Daleithiau AmericaPoner el Cuerpo, Sacar la VozKabsaOceania1955Ffiseg gronynnauCanghellor y TrysorlysSisters of AnarchyLlenyddiaeth yn 2023Ashland, OregonWilliam John Gruffydd (Elerydd)Border CountryHugo Chávez🡆 More