Mae Ed Holden neu i roi ei enw llwyfan, Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn bît-bocsio yn y Deyrnas Unedig ac yn sicr yng Nghymru.
Mae'n rapiwr, bît-bocsiwr, perfformiwr ac yn rhedeg ei stiwdio recordio ei hun, Stiwdio Panad yn Llanfrothen, Gwynedd.
Ed Holden | |
---|---|
Ffugenw | Ed Holden |
Ganwyd | 1980s Llanelwy |
Man preswyl | Llanfrothen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rapiwr, beatboxer |
Gwefan | http://www.mrphormula.com/ |
Ganwyd Ed Holden yn Llanelwy a magwyd yn Llanerchymedd ac yna Amlwch, Ynys Môn ac aeth i Ysgol Syr Thomas Jones. Yn 21 oed rhoddodd gorau i'w swydd mewn canolfan alwadau er mwyn mynd yn gerddor, cynhyrchydd a pherfformiwr llawn amser. Bydd hefyd yn rhoi gwersi rapio a bît bocsio mewn ysgolion a chlybiau.
Mae Ed Holden/Mr Phormula wedi chwarae rhan flaenllaw yn y Sôn Roc Gymraeg ers canol yr 2000au.
Dechreuodd ddiddordeb Ed yn y Sîn Roc Gymraeg pan oedd yn 17 oed a cyflwynodd Aaron Elias o'r grŵp Pep Le Pew, gasét o fiwsig Cymraeg iddo. Dyma oedd y tro cyntaf i Ed glywed rap yn y Gymraeg. Yn ôl wefan Llywodraeth Cymru fel rhan o ymgyrch Dydd Miwsig Cymru 2018, "Wnes i wrando ar y cassette a clywed rap yn yr iaith Gymraeg am y tro cynta’ erioed, wow! Felly wnes i ymuno efo’r band a dyna be gychwynodd fy ngyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg." Wedi'r profiad yma, ymunodd Ed gyda grŵp Pep le Pew o Borthmadog ar ddechrau'r Mileniwm.
Roedd yn aelod o grŵp rap chwaraeus, Genod Droog oedd yn cynnwys unigolion sydd wedi mynd ymlaen i chwarae rhan amlwg ym mywyd cerddoriaeth a diwylliant Cymru gan gynnwys y prifardd Aneirin Karadog, y cyflwynydd a chynhyrchydd radio, Dyl Mei, a'r cyflwynydd ar Radio Cymru, Gethin Evans.
Mae hefyd wedi perfformio efo Derwyddon Dr Gonzo - band boblogaidd a dylwanwadol arall.
Ers diwedd y Genod Droog, mae Ed wedi parhau i berfformio a chyfansoddi. Ef yw pencampwr Lwpio Cymru ar hyn o bryd, ac yn 2013, bu’n is-bencampwr Lwpio’r DU.
Mae wedi gweithio gyda rhai o fawrion y byd hip hop gan gynnwys The Pharcyde, Jungle Brothers, Boy better Know, Plan B, Professor Green a’r chwedlonol Krs-One, ac mae hyn oll yn dangos ansawdd a chwmpas doniau cynhyrchu Mr Phormula sy’n ategu natur farddonol ei ddwyieithrwydd.
Mae Mr Phormula’n un o’r artistiaid mwyaf prysur yn sîn hip hop y DU, ac mae wedi perfformio mewn nifer o leoliadau, clybiau nos a gwyliau (gan gynnwys Neuadd Albert yn Llundain), yn ogystal ag ymddangosiadau lawer ar deledu a radio Cymreig a Phrydeinig. Yn 2012 daeth y person gyntaf i berfformio yn y Gymraeg yng ngwobrau MOBO yn y Liverpool Arena.
Mae’i waith newydd arloesol yn datblygu’r sîn hip hop yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo’r genre dwyieithog ar draws y byd.
Sefydlodd Ed Holden Stiwdio Panad yn Llanfrothen. Mae Stiwdio Panad yn fan cynhyrchu i ddeunydd gwreiddiol Ed Holden a “Panad Productions”. He is 6,4
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ed Holden, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.