Emynydd Cymraeg oedd David Charles (11 Hydref 1762 – 2 Medi 1834), Caerfyrddin, a ystyrir yn un o brif emynwyr Cymru.
Ymhlith ei emynau enwocaf mae "O fryniau Caersalem ceir gweled" ac "O Iesu Mawr".
David Charles | |
---|---|
Ganwyd | 11 Hydref 1762 Llanfihangel Abercywyn |
Bu farw | 1834 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Tad | Rees Charles |
Mam | Jael Bowen |
Priod | Sarah Phillips |
Plant | Eliza Charles, David Charles II |
Fe'i ganwyd mewn ffermdy o'r enw Pant-dwfn, ger Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Rees a Jael Charles, ac yr oedd Thomas Charles o'r Bala yn frawd iddo. Cafodd brentisiaeth fel triniwr llin a gwnaethurwyr rhaffau yng Nghaerfyrddin, ac am gyfnod bu draw ym Mryste yn derbyn hyfforddiant pellach. Trwy ddarllen Night Thoughts Edward Young a phregethau Ralph Erskine, fe'i argyhoeddwyd o'r gwirionedd, a dychwelodd i Gaerfyrddin i ddilyn ei alwedigaeth. Priododd Sarah, merch Samuel Levi Phillips o'r Hwlffordd ac ymunodd á'r Methodistiaid yn Heol y Dwr, ble'i gwnaethpwyd yn flaenor. Cyfranodd at waith y Methodistiaid yn y De, gan gynnwys sefydlu'r genhadaeth gartref a llunio'r Gyffes Ffydd. Aeth ati i bregethu o 1808 ymlaen, ac yn Ordeiniad Cyntaf y Methodistiaid, Llandeilo Fawr, yn 1811, fe'i hordeiniwyd yn weinidog. Nid yn annhebyg i'w frawd, fe'i hystyrid yn emynwr a diwynydd rhagorol, a chyhoeddodd ei fab-yng-nghyfraith, Hugh Hughes yr arlunydd, lawer o'i bregethau, tra daeth ei emynau i'r amlwg mewn casgliadau bychain eraill o'r cyfnod.
Ymadawodd á'i ysbryd ar 2 Medi 1834, a chladdwyd ei gorff yn mynwent Llangynnwr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article David Charles, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.