Gwyddonydd, telynor a dyfeiswr y teledeipiadur a'r meicroffon oedd David Edward Hughes (16 Mai 1831 – 22 Ionawr 1900) a anwyd yng Nghorwen neu o bosib Llundain.
Dyfeisiodd y teledeipiadur (neu'r telegraph) yn 1855 a'r meicroffon yn 1878.
David Edward Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mai 1831 Llundain |
Bu farw | 22 Ionawr 1900 Llundain |
Man preswyl | Bardstown, Bowling Green, Kentucky |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, dyfeisiwr, ffisegydd, cerddolegydd |
Priod | Anna Merrill Chadbourne Morey Hughes |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Commandeur de la Légion d'honneur, Medal Albert, Urdd y Goron Haearn (Awstria) |
Ei dad oedd David Hughes o'r Bala a symudodd i Lundain. Gan iddynt symud o le i le, ni wyddys i sicrwydd ai yng Nghorwen ai Llundain y'i ganed. Roedd yn frawd iau i'r telynor Joseph Hughes.
Ymfudodd gyda'i deulu i dalaith Virginia, U.D.A., pan oedd yn saith oed, a chafodd ei addysg yn S. Joseph's College, Bardstown, Kentucky. Pan oedd yn 19 dyrchafwyd ef yn athro prifysgol mewn cerddoriaeth yn y coleg hwnnw a'r flwyddyn ddilynol cafodd gadair gwyddoniaeth naturiol yno hefyd.
Yn 21 oed dyfeisiodd 'delegraff printio' ag iddo nodweddion creadigol; gadawodd y coleg er mwyn canolbwyntio ar ddyfais a oedd yn cludo llais drwy weiren fetal, a gorffennodd y ddyfais yn 1855, cyn roi patent arni yn 1856. Ceisiodd ei marchnata (gan gynnwys taith i Loegr yn 1857 ac yna i Ffrainc) ond ni chafwyd fawr o ddiddordeb ynddi. Ond yn 1860 prynwyd y ddyfais gan Lywodraeth yr U.D. ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd yn cael ei defnyddio drwy Ewrop; daeth y Hughes Telegraph System hefyd yn safon drwy Ewrop.
Yn 1879 gwnaeth arbrawf ddiddorol a brofodd fod ymbelydredd electromagnetig yn bodoli, a hynny pan drosglwyddodd signalau radio o un pen i Great Portland Street, Llundain i'r llall. Roedd hyn wyth mlynedd cyn i Heinrich Hertz gael y clod am wneud yr un peth! Roedd hefyd, ugain mlynedd cyn darllediad radio Guglielmo Marconi. Ystyrir (ym myd gwyddoniaeth) fod y methiant o'i gydanabod yn gam mawr.
Mae Hughes yn un o'r gwyddonwyr gyda'r nifer mwyaf o anrhydeddau erioed. Yn eu plith y mae:
Bu farw yn Llundain.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article David Edward Hughes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.