Caws

Bwyd solet a wneir o geuled gwasgedig y llaeth sur yw caws.

Mae'n fwyd sy'n llawn o galsiwm. Fe'i gwneir o laeth gwartheg gan amlaf, ond gall gael ei wneud o laeth geifr, llaeth defaid neu laeth buail hefyd.

Caws
Caws
Mathcaws a chaws bwthyn, cynhwysyn bwyd, cynnyrch bwyd Edit this on Wikidata
Deunyddllaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Caws
Amryw fathau o gawsiau

Ceir rhai mathau o gaws gyda llwydni arnynt.

Rhestr mathau o gaws

Y cosyn cartref

Dull

Enllyn arall derbyniol fyddai cosyn cartref a byddai amryw o'r ffermydd, yn gwneud tipyn o gaws pan fyddai digonedd o laeth. Ffordd arferol i'w wneud byddai defnyddio llaeth drwyddo, hynny yw, y llaeth heb ei hufennu a llaeth sgim. Llaeth wedi codi'r hufen oddiarno, yr un faint o bob un, a'i dwymo i wres gwaed 98°F. Wedyn ychwanegu cywirdeb (rennet) iddo a'i adael i sefyll gwpl o ddyddiau hyd nes y byddai wedi ffurfio yn grawen yng ngwaelod y pot. Cael yr hyn a elwid yn 'llian caws' a'i daenu arno ac arllwys y gwlybion i lestr arall (dyma'r maidd, fyddai'n gwneud siot mor flasus yn ystod y cynhaeaf gwair, fel y llaeth enwyn o'r fuddai.) Mwyaf yn y byd a dynnid o'r gwlybion, byddai'r grawen, sef y gronynnau caws, yn ffurfio fel lwmp o does. Wedyn, byddai malwr a phigau arno, rhyw fath o beiriant oedd hwn i falu'r grawen cyn ei roi yn y cawswellt ac yna gosod gwasg denau o amgylch a llanw'r cawswellt a'r wasg yn llawn. Amcan y wasg oedd iddi suddo i mewn gyda'r caws o dan bwysau a phan gyrhaeddai'r pwysau a gwyneb y cawswellt byddai cymaint o wasgu ag a fyddai'n bosibl wedi cymryd lle. Dwy garreg las wedi eu gosod mewn ffrâm haearn fyddai yn gwasgu a'r garreg fyddai yn pwyso yn cael ei rheoli gan sgriw bwrpasol. Byddai tyllau mân yng ngwaelod y cawswellt a hefyd yn y garreg er mwyn i'r sudd gael ei weithio allan. Gollwng ychydig bwysau yn ychwanegol bob dydd fyddai'r gamp fel y byddai'r cosyn yn sychu ac wedi bod yno am rai dyddiau felly byddai cosyn o ddeuddeg i bymtheg pwys yn barod i'w roi ar y silff at wasanaeth y teulu. Edrychid ymlaen at swper a thorri'r cosyn.

Enghreifftiau o wneuthur caws

  • Aberdaron 7 Mehefin 1884: sych Thomas Penybryn yn dyfod a [caws cnwc ?crwc]. Talu iddo am y cnwc... Oes yna rhywun yn gyfarwydd a’r term “caws cnwc” tybed?
  • Llansilin sir Ddinbych 28 Ebrill 1942: Troi yn Hafod Caws a hau Gwenith. [Mae yna fferm yng Ngherrig y Drudion o'r enw Hafod y Maidd hefyd]
  • Ty Uchaf, Padog 5 Gorffennaf 1946: 5.80 gneifiwr yma yn cneifio, yma tan 6.00yh. Cael ffurflen i brynu bwyd ar rations:-Te libs 2oz, Siwgr 3 a hanner pwys, Margarine 3 a chwarter pwys, Preserves 31bs, Caws 1 a tri chwarter pwys.3 0 pwynt at y cynhaeaf gwair.

Cyfeiriadau

Caws 
Chwiliwch am caws
yn Wiciadur.

Tags:

Caws Rhestr mathau o gawsCaws Y cosyn cartrefCaws CyfeiriadauCawsBualBwydCalsiwmDafadGafrGwarthegLlaeth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

LerpwlBrenhiniaethMaffia Mr HuwsMari, brenhines yr AlbanByseddu (rhyw)Yn SymlDeadly InstinctMarie AntoinetteMambaRobert RecordeCorrynY FenniTwyn-y-Gaer, LlandyfalleThe Dude WranglerTaekwondoAda LovelaceKarin Moglie VogliosaSybil AndrewsTitw mawrAlan TuringWashington, D.C.Mahmood Hussein MattanGwlad IorddonenParamount PicturesCrabtree, PlymouthXHamsterAsgwrnPeiriant WaybackIncwm sylfaenol cyffredinolPont y BorthThe Road Not TakenDewi 'Pws' MorrisHanes diwylliannolIs-etholiad Caerfyrddin, 1966Abertawe (sir)RSS2016Morysiaid MônMaerThe Wilderness TrailLlyn EfyrnwyFfisegCaethwasiaethDe OsetiaIago I, brenin yr AlbanCapel y NantHome AloneHentaiSidan (band)Cyfarwyddwr ffilmSafleoedd rhywSiot dwadCodiadLingua francaRhestr o luniau gan John ThomasBusty CopsDerek UnderwoodCannon For CordobaBwncath (band)A Night at The RoxburySeibernetegLove Kiya Aur Lag GayiCredydLa ragazza nella nebbiDave SnowdenYr Undeb SofietaiddHanes JamaicaCaersallogSaddle The WindDavid Roberts (Dewi Havhesp)Cronfa ClaerwenFrom Noon Till ThreeCynnwys rhydd🡆 More