Roedd polisi tramor Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR) yn ddibynnol ar bolisi tramor yr Undeb Sofietaidd (UGSS).
Sefydlwyd y DDR ym 1949 o'r sector o'r Almaen a feddiannwyd gan yr Undeb Sofietaidd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, tra cyfunodd y tair sector a feddiannwyd gan yr Unol Daleithiau, Ffrainc, a'r Deyrnas Unedig i ffurfio Gorllewin yr Almaen (Gweriniaeth Ffederal yr Almaen).
Enghraifft o'r canlynol | polisi tramor, foreign relations |
---|---|
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen |
Ymdrechodd arweinyddiaethau'r DDR ac UGSS i gynnal y DDR fel gwladwriaeth gomiwnyddol ar flaen y Llen Haearn yn Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer. Cafodd y DDR ei hintegreiddio i gymdeithas gwladwriaethau'r Bloc Dwyreiniol, ac yr oedd yn aelod o Gytundeb Warsaw a Comecon.
Cafodd safle'r DDR ar y llwyfan ryngwladol ei rwystro'n llym gan Athrawiaeth Hallstein, agwedd o Westpolitik Gorllewin yr Almaen o 1955 i tua 1970 oedd yn haeru ni ellir cynnal cysylltiadau diplomyddol â gwladwriaethau oedd yn cydnabod y DDR, er mwyn atgyfnerthu ei haeriad taw'r Weriniaeth Ffederal oedd yr unig wladwriaeth Almaenig gyfreithlon. O ganlyniad, cydnabuwyd y DDR gan wladwriaethau comiwnyddol eraill yn unig, gan ei gwneud yn "esgymun rhyngwladol" oedd yn ddibynnol ar yr Undeb Sofietaidd a gweddill y Bloc Dwyreiniol. Dilynodd y DDR Athrawiaeth Ulbricht, gyda'r amcan o ennill cydnabyddiaeth Gorllewin yr Almaen. Roedd hyn nid yn unig yn brif nod polisi tramor y DDR, ond yn brif nod holl bolisi'r Blaid Undod Sosialaidd. Pan ddaeth Willy Brandt yn Ganghellor Gorllewin yr Almaen ym 1969, ceisiodd ei Ostpolitik i normaleiddio cysylltiadau rhwng Gorllewin yr Almaen a'r Bloc Dwyreiniol, gan gynnwys y DDR. Roedd Brandt yn barod i gydnabod y DDR fel gwladwriaeth ar wahân, ond nid cenedl ar wahân, gan gadw'r nod o aduniad yn y pen draw. Yn dilyn Cytundeb y Pedwar Pŵer ar Ferlin a Chytundeb Sylfaenol 1972, bu 'ton ddiplomyddol' o wladwriaethau newydd yn cydnabod y DDR. Ym 1973 cytunodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig trwy Benderfyniad 335 i dderbyn y ddwy wladwriaeth Almaenig yn aelodau'r Cenhedloedd Unedig. Erbyn y 1980au roedd y DDR yn cynnal cysylltiadau diplomyddol â mwy na 130 o wladwriaethau eraill.
Yn ystod y 1970au, ehangodd cysylltiadau tramor y DDR i'r Trydydd Byd, yn enwedig Affrica. Yn hwyr y 1960au a'r 1970au cynnar, ceisiodd y DDR i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol o wledydd y Trydydd Byd yn gyfnewid am gymorth economaidd a thechnegol, gan hefyd portreadu Gorllewin yr Almaen fel 'gwir olynydd' yr Almaen ymerodraethol, ac felly lliwio'r DDR fel gwladwriaeth sosialaidd annhrefedigaethol. Cafodd y polisi hwn rhywfaint o lwyddiant: cydnabuwyd y DDR gan Swdan ym 1969 a nifer o wladwriaethau Arabaidd ar ddechrau'r 1970au. Bu nifer o gytundebau milwrol ac economaidd, ffurfiol ac anffurfiol, rhwng y DDR a gwladwriaethau'r Trydydd Byd (gan gynnwys Angola, Mosambic, ac Ethiopia) a mudiadau rhyddid (gan gynnwys yr ANC, y PLO, a ZAPU) oedd â chysylltiadau ag UGSS. Erbyn canol y 1980au, bu dros 2000 o bersonél milwrol y DDR mewn gwledydd y Trydydd Byd, yn bennaf mewn rôl cynghori ac hyfforddi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cysylltiadau rhyngwladol Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.