Mab ieuengaf Darius II, brenin Persia a'i frenhines Parysatis oedd Cyrus yr Ieuengaf (bu farw 401 CC).
Cyrus yr Ieuengaf | |
---|---|
Ganwyd | 5 g CC |
Bu farw | 401 CC o lladdwyd mewn brwydr Battle of Cunaxa |
Galwedigaeth | swyddog milwrol |
Swydd | satrap |
Tad | Darius II, brenin Persia |
Mam | Parysatis |
Priod | Aspasia the Younger |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Yn 408 CC, ar anogaeth Parysatis, gwnaeth Darius II Cyrus yn satrap (llywodraethwr) Lydia, Phrygia a Cappadocia ac yn bennaeth y byddinoedd yn Asia Leiaf yn lle Tissaphernes. Bu Cyrus yn cydweithio a Sparta i wrthwynebu Athen.
Yn 401 CC, cymerodd Cyrus fantais ar ei gweryl gyda Tissaphernes i godi byddin o tua 20,000 o wŷr, yn cynnwys tua 10,000 o hurfilwyr Groegaidd. Wedi croesi Afon Ewffrates, cyhoeddodd Cyrus ei fod am gipio gorsedd Ymerodraeth Persia oddi ar ei frawd, Artaxerxes II. Cododd Artaxerxes fyddin yn ei erbyn, ac ym mrwydr Cunaxa, i’r gogledd o ddinas Babilon, lladdwyd Cyrus yn yr ymladd.
Cofnodir hanes taith hurfilwyr Groegaidd Cyrus yn ôl i Wlad Groeg gan Xenophon, un o'u harweinwyr, yn yr Anabasis ("Yr Ymgyrch”).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyrus yr Ieuengaf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.