Cynhaliwyd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2015 (neu Conference of the parties (COP) ym Mharis o 30 Tachwedd hyd at 12 Rhagfyr, 2015.
Hon oedd 21ain cynhadledd "Cynhadledd y Partion" 'Confensiwn Fframwaith ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig' ers ei sefydlu yn 1992 ac 11eg sesiwn 'Cyfarfod y Partion' ers arwyddo Cytundeb Kyoto yn 1997. Amcan y gynhadledd oedd sicrhau cytundeb i ymglymu cenhedloedd y byd yn gyfreithiol mewn materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd neu, fel y'i gelwir yn gynyddol, yr argyfwng hinsawdd.
Logo'r Cynhadledd | |
Cyfieithiad | United Nations Climate Change Conference |
---|---|
Dyddiad | 30 Tachwedd 2015 12 Rhagfyr 2015 | –
Cyfranogwyr | Confensiwn Fframwaith ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig United Nations Framework Convention on Climate Change Gwledydd sy'n aelodau o'r UNFCCC |
Gwefan | Venue site Gwefan UNFCCC |
Canlyniad trafodaethau a negydu'r gynhadledd oedd L'accord de Paris, neu Gytundeb Paris, gyda'r nod o reoli a lleihau carbon deuocsid (CO2) o 2020. Mabwysiadwyd y cytundeb yn swyddogol ar 12 Rhagfyr 2015.
Nod y gynhadleddoedd sicrhau cytundeb a fyddai'n sicrhau fod pob cenedl drwy'r byd yn gweithredu i atal newid i'r hinsawdd gan ddyn. Cyhoeddwyd gylchlythyr y Pab, Pab Ffransis a enwyd yn Laudato si' gyda'r bwriad o ddylanwadu ar genhedloedd y byd. Galwodd am weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Ategwyd hyn gan ysgrifennydd cyffredinol undeb llafur mwya'r byd sef Cynhadledd yr Undebau Llafur Rhywladol (Ffrangeg: Confédération syndicale internationale) a nododd mai amcan pawb ddylai fod "sero carbon, sero tlodi... nid oes swyddi ar blaned marw".
Amcanion cyffredinol y Gynhadledd oedd lleihau nwyon tŷ gwydr a allyrir gan genhedloedd y byd, yn enwedig CO2 er mwyn cadw tymheredd y Ddaear i 2 °C yn unig o gynnydd ers cychwyn y chwyldro diwydiannol. Nodwyd mewn trafodaethau cynharach y pwysigrwydd i wledydd unigol ymrwymo i dargedi arbennig, a elwir yn Intended Nationally Determined Contributions neu INDCs.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2015, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.