Corff gwleidyddol uchaf yr Undeb Ewropeaidd yw'r Cyngor Ewropeaidd (y cyfeirir ato hefyd fel Uwch-gynhadledd Ewropeaidd), sy'n cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn.
Mae'n cynnwys penaethiaid y gwladwriaethau neu'r llywodraethau o aelod-wladwriaethau'r Undeb, ynghyd â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Yn y gorffennol, cadeirwyd y cyfarfod gan yr aelod o'r aelod-wladwriaeth sy'n dal Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2009, creodd Cytundeb Lisbon llywydd parhaol. Herman Van Rompuy o Wlad Belg yw'r llywydd presennol.
Enghraifft o'r canlynol | institution of the European Union |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 9 Rhagfyr 1974 |
Yn cynnwys | pennaeth llywodraeth, Rhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd, President of the European Council |
Pennaeth y sefydliad | President of the European Council |
Rhiant sefydliad | yr Undeb Ewropeaidd |
Pencadlys | Europa building |
Enw brodorol | European Council |
Gwladwriaeth | yr Undeb Ewropeaidd |
Gwefan | https://www.consilium.europa.eu/en/, https://www.consilium.europa.eu/fr/, https://www.consilium.europa.eu/es/european-council/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tra bod y Cyngor heb rymoedd gweithredol neu ddeddfwriaethol ffurfiol (corff yr Undeb yw ef, nid sefydliad), mae'n ymdrin â materion pwysig ac mae ei benderfyniadau yn cynrychioli'r prif ddylanwad mewn diffinio canllawiau gwleidyddol cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Cyngor yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn o leiaf, yn yr adeilad Justus Lipsius ym Mrwsel fel arfer. Dylid gwahaniaethu rhwng y Cyngor hwn, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyngor Ewropeaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.