Cytundeb i gydweithredu ym maes amddiffyn a chydymladd yn achos rhyfel yw cynghrair milwrol.
Offeryn yw cynghrair sydd yn galluogi gwladwriaeth i weithredu diddordebau'r wlad, i wella diogelwch cenedlaethol, ac i gyfuno'i hadnoddau â gwladwriaethau eraill er lles holl aelodau'r cynghrair.
Cafwyd nifer o gytundebau o'r fath dros y canrifoedd. Yn ôl prosiect ATOP bu 648 o gynghreiriau rhwng 1815 a 2003. Dominyddwyd hanes ail hanner yr 20g gan yr anghydfod a chystadlu rhwng gwledydd NATO, cynghrair a sefydlwyd gan rai o wledydd Ewrop a Gogledd America, a gwledydd Cytundeb Warsaw dan arweinyddiaeth yr hen Undeb Sofietaidd.
Ceir nifer o wahanol fathau o gynghrair. Wrth geisio eu diffinio, gellir dosbarthu cynghreiriau yn gategorïau gan gynnwys amddiffynnol, ymosodol, cytundebau i beidio ag ymosod, cytundebau amhleidioldeb, a chytundebau ymgynghori. Gall y categorïau hyn gorgyffwrdd ei gilydd. Mae cynghreiriau ymosodol pur yn brin iawn, ac ymddangosir eu bod yn ffenomen o'r 19eg ganrif.
Gwahaniaethir rhwng cynghreiriau, sy'n cryfhau diogelwch eu haelodau parthed gweithredyddion allanol, a threfniadau diogelwch cyfunol eraill megis cytundebau rheoli arfau sydd yn cryfhau diogelwch eu haelodau parthed ei gilydd. Dibynnir cynghreiriau ar rym milwrol i atal fygythiadau allanol.
Gan amlaf gwahaniaethir rhwng cynghreiriau ac ymochreddau, megis y Mudiad Amhleidiol yn ystod y Rhyfel Oer.
Wrth ymuno â chyngrair, mae gwladwriaeth yn ystyried y buddion diogelwch a ddaw o ymaelodaeth yn erbyn y costau a ddaw, megis dibynniaeth ar rym gwladwriaethau eraill a cholli ymreolaeth. Mae'r penderfynyddion rhyngwladol sy'n effeithio ar ffurfio cynghrair yn cynnwys cydbwysedd grym, cydbwysedd bygythiad, ac i reoli partneriaid o fewn y cynghrair. Mae'r penderfynyddion mewnwladol yn cynnwys cyfeiriadeddau gwleidyddol tebyg gan lywodraethau: gwerthoedd, diddordebau, a chanfyddiadau bygythiadau cyffredin. Gall newidiadau mewn unrhyw o'r penderfynyddion hyn arwain at chwalfa'r cynghrair.
Ers yr 20g yn hanes cysylltiadau rhyngwladol, mae cynghreiriau yn tueddu i oroesi'n hirach nac ynghynt, yn arbennig y rhai nad sydd yn ymosodol o gwbl. Oes cyfartalog cynghreiriau yn y cyfnod 1815–1865 oedd 8.7 mlynedd, i gymharu â 17.7 mlynedd yn y cyfnod 1945–1995. Yn ôl Duffield, Michota, a Miller, "mae rhyfeloedd mawr yn tueddu i ddifa cynghreiriau o'r tir". Enghraifft o hyn yw'r Ail Ryfel Byd: ar ôl dod i ben, chwalodd nid yn unig Cynghrair yr Axis a gollodd y rhyfel ond hefyd y Cynghreiriaid buddugol.
Mae'n werth nodi bod cynghreiriau rhwng democratiaethau rhyddfrydol yn tueddu i barhau am hirach, gan fod trawsnewidiadau esmwyth o rym mewnwladol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cynghrair milwrol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.