Rhanbarth lle mae defnydd eang o drais (megis rhyfel) yn annhebygol neu hyd yn oed yn annirnadwy yw cymuned ddiogelwch.
Bathwyd y term gan y gwyddonydd gwleidyddol Karl Deutsch ym 1957. Yn eu gwaith arloesol Political community and the North Atlantic area: international organization in the light of historical experience, diffiniodd Deutsch a'i gydawduron gymuned ddiogelwch fel "grŵp o bobl" sy'n credu "eu bod wedi dod i gytundeb ar y pwynt hwn o leiaf: y gellir ac y dylir datrys problemau cymdeithasol cyffredin trwy brosesau o 'newid heddychlon'". Diffiniwyd newid heddychlon fel "datrysiad problemau cymdeithasol, gan amlaf trwy drefnau sefydliadol, heb angen troi at rym corfforol ar raddfa eang". Rhwymir pobl mewn cymuned ddiogelwch gan "deimlad o gymuned", cydymdeimlad, ymddiriedaeth, a diddordebau cyffredin. Ystyrid yr Undeb Ewropeaidd yn enghraifft nodweddiadol o gymuned ddiogelwch.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymuned ddiogelwch, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.