Aderyn rhydiol o deulu'r Scolopacidae yw cwtiad y traeth (Arenaria interpres; hefyd hutan y dŵr, hutan y môr).
Cwtiad y traeth | |
---|---|
Oedolyn mewn plu haf yn Fflorida | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Arenaria |
Rhywogaeth: | A. interpres |
Enw deuenwol | |
Arenaria interpres (Linnaeus, 1758) |
Mae'n nythu ar y twndra, ger y môr fel arfer, yn rhanbarthau arctig Ewrasia a Gogledd America. Mae'n treulio'r gaeaf ar hyd arfordiroedd ar draws y rhan fwyaf o'r byd; mae i’w weld yn aml ar arfordiroedd ac aberoedd Cymru. Mae'n bwydo ar bryfed, cramenogion, molysgiaid ac infertebratau eraill gan fwyaf.
Mae'n 22–24 cm o hyd ac mae'n pwyso 85–150 g. Yn ystod y tymor nythu, mae'n ddu ac orenfrown ar y cefn ac yn ddu a gwyn ar y pen a'r fron. Mae'n dywyllach ac yn llai lliwgar yn ystod y gaeaf.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cwtiad y traeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.