Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Primorsky (Rwseg: Примо́рский край, Primorsky kray; hefyd Primorye ar lafar).
Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Vladivostok. Poblogaeth: 1,956,497 (Cyfrifiad 2010).
Math | krai of Russia |
---|---|
Prifddinas | Vladivostok |
Poblogaeth | 1,877,844 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Oleg Kozhemyako |
Cylchfa amser | Vladivostok Time, Asia/Vladivostok |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 164,673 km² |
Yn ffinio gyda | Crai Khabarovsk, Heilongjiang, Jilin, Rason |
Cyfesurynnau | 45.33°N 134.67°E |
RU-PRI | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Legislative Assembly of Primorsky Krai |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Primorsky Krai |
Pennaeth y Llywodraeth | Oleg Kozhemyako |
Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell, ar arfordir Môr Siapan; ystyr y gair Rwseg primorsky yw "morol". Mae'n gorwedd ar y ffin rhwng Rwsia a Gweriniaeth Pobl Tsieina a Gogledd Corea, dros y môr i'r gorllewin o Siapan. Mae'n ardal mynyddig a gorchuddir tua 80% o'r tir gan goedwigoedd. Yn ddaearyddol, mae'n rhan o Manchuria.
Sefydlwyd Crai Primorsky ar 20 Hydref, 1938, yn yr hen Undeb Sofietaidd.
Mae'r crai yn gartref i sawl rhywogaeth o anifeiliaid ac adar, yn cynnwys y boblogaeth fwyaf yn y byd o Deigrod Siberia ac Amur.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Crai Primorsky, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.