Darn o ddodrefn yw bwrdd (Gogledd) neu bord (De), (sy'n enw gwrywaidd) gydag wyneb agored, llyfn ac sydd wedi'i gynnal gan goesau: pedair neu chwech, fel arfer.
Fe'i defnyddir fel arfer i gynnal gwrthrychau bychain fel bwyd, i weithio, i arddangos blodau, i gynnal pethau neu i nifer fawr o ddefnyddiau eraill. Y pwrpas mwyaf cyffredin yw i fwyta, gyda phersonnau o'i cwmpas yn eistedd ar gadeiriau addas i'w uchder. Ceir mathau eraill fel y bwrdd coffi, sy'n is, ac wedi'i leoli yn y lolfa.
Roedd gan y rhan fwyaf o fyrddau cynnar ddroriau o dan y bwrdd. Mae rhain yn llai cyffredin erbyn hyn. Gelwir bwrdd sydd wedi ei gynllunio'n arbennig ar gyfer ysgrifennu neu waith swyddfa yn ddesg, a gall rhain gynnwys set o ddroriau sy'n cynnal y bwrdd yn hytrach na choesau. Mae gan rhai byrddau adrannau ychwanegol er mwyn ymestyn y bwrdd pan fydd angen; gelwir yr adrannau hyn yn ddalenni. Gellir eu gwneud o nifer o ddeunyddiau megis pren, cardbord, plastig, metel neu wydr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bwrdd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.