Awr

Mae awr yn uned o amser sy'n hafal i 60 eiliad; ceir 24 awr mewn diwrnod.

Lluosog y gair ydy "oriau" a defnyddir y gair "orig" am awr sydd wedi mynd yn gyflym. Weithiau, gall olygu "cyfnod o amser" e.e. 'Ni wyddoch yr awr y daw Mab y Dyn' (Beibl).

Awr
Awr
Enghraifft o'r canlynoluned amser, Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, uned sy'n deillio o UCUM Edit this on Wikidata
Mathcyfnod o amser Edit this on Wikidata
Rhan odiwrnod Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmunud Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Awr
Canol nos ar gloc 24-awr

Dydy awr ddim yn uned rhyngwladol safonol (yr SI) yn swyddogol, ond caiff ei derbyn ar y cyd â'r rhestr hon fel Unedau ychwanegol at yr Unedau SI. Gall awr, o fewn safon UTC (Universal Coordinated Time) gynnwys eiladau naid negyddol neu bositif (Saesneg: negative or positive leap second), ac felly, gall ei hyd gynnwys 3,599 neu 3,601 eiliad i bwrpas addasu.

Tarddiad y gair

Benthyciad o'r Lladin Hora ydyw, sydd, yn ei dro'n tarddu o'r gair Groeg ὥρα ("tymor, amser y dydd, awr").

Mae'r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o'r gair, yn Gymraeg, yn mynd yn ôl i'r 10g, sef oddi fewn y Computus Fragment.

Hanes

Arferai trigolion yr hen Aifft ddefnyddio cloc haul a rannwyd yn ddiwrnod o haul (sef 10 awr) ac awr bob pen (y cyfnos). Gyda hyn, ychwanegasant 10 awr o nos; cyfanswm o 24 awr.

Cynlluniodd yr hen Roegwr Andronicws o Gyrrhws beiriant horologion o'r enw "Tŵr y Gwynt" yn y Ganrif Gyntaf B.C. a oedd yn cynnwys clociau haul a rhannau mecanyddol er mwyn dweud yr amser o fewn cyfnod o 24 awr.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

  • Oriawr: awrddrych, awrflwch, awrfynegydd, awrlais
  • Awrfys: bys yr awr ar gloc
  • Awrlestr: cloc tywod, awrwydr
  • Awrleisiwr: trwsiwr clociau
  • Cloc taid
Chwiliwch am awr
yn Wiciadur.

Tags:

Awr Tarddiad y gairAwr HanesAwr CyfeiriadauAwr Gweler hefydAwrAmserDiwrnodEiliad

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

OmorisaDerbynnydd ar y topFfilmComin WikimediaWici CofiEirug WynFfilm gomediHelen LucasAnwythiant electromagnetigPenelope LivelyFylfaAlien RaidersWreterU-571Support Your Local Sheriff!Doreen LewisPenarlâgMarco Polo - La Storia Mai RaccontataTimothy Evans (tenor)Anne, brenhines Prydain FawrEconomi CymruBudgieEmyr DanielCyfalafiaethBlwyddynDonald Watts DaviesSwydd Amwythig25 EbrillNorwyaidFietnamegIeithoedd BerberEfnysienSimon BowerAriannegXxyNottinghamDulynCyfathrach rywiolCyfrifegJohn F. KennedySant ap CeredigHTMLAlbert Evans-JonesHanes economaidd CymruYsgol Dyffryn Aman2009Anna VlasovaThe Wrong NannyLeo The Wildlife RangerJess DaviesNedwKathleen Mary FerrierSiot dwad wynebFfrwythBatri lithiwm-ionHuw ChiswellMeilir GwyneddConwy (etholaeth seneddol)HalogenAlexandria RileyWrecsamLGregor MendelRhyw rhefrolParth cyhoeddusBolifiaGenwsNia ParryEliffant (band)🡆 More