Dinas yn nhalaith Gujarat yng ngorllewin India yw Ahmedabad (Gujarateg: અમદાવાદ Amdāvād, Hindi: अहमदाबाद).
Hi yw seithfed dinas India o ran poblogaeth, gyda 4,269,846 yn byw yn y ddinas yn 2008 a 5,680,566 yn yr ardal ddinesig. O 1960 hyd 1970, Ahmedabad oedd prifddinas talaith Gujarat; y flwyddyn honno daeth Gandhinagar yn brifddinas.
Math | dinas, dinas fawr, anheddiad dynol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ahmed Shah I |
Poblogaeth | 7,645,000 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Gautam Shah |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Central Gujarat |
Sir | Ahmedabad district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 464.165 km², 535.7 ha, 395 ha |
Uwch y môr | 53 ±1 metr |
Gerllaw | Sabarmati |
Cyfesurynnau | 23.0219°N 72.5797°E |
Cod post | 3800XX |
Pennaeth y Llywodraeth | Gautam Shah |
Saif y ddinas ar Afon Sabarmati. Sefydlwyd hi yn 1411 gan Swltan Ahmed Shah fel prifddinas i Swltaniaeth Gujarat, ac enwyd y ddinas ar ei ôl ef. Cipiwyd Gujarat gan yr ymerawdwt Mughal Akbar yn 1573, a daeth yn un o ddinasoedd pwysicaf yr ymerodraeth. Yn 1915, sefydlodd Mahatma Gandhi ashram yn y ddinas, y Kochrab Ashram, yna yn 1917 sefydlodd y Satyagraha Ashram (yn awr Sabarmati Ashram). O Ahmedabad y cychwynnodd Gandhi ar ei daith enwog i'r môr i gasglu halen yn 1930.
Hi yw dinas bwysicaf y dalaith ar gyfer masnach, a bu datblygiad economaidd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ahmedabad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.