Y maw Afon Wouri (hefyd Vouri neu Vuri) yn afon yn ne Camerŵn.
Math | afon, cwrs dŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Littoral |
Gwlad | Camerŵn |
Cyfesurynnau | 4.0833°N 9.7°E, 4.0833°N 9.7°E, 4.00414°N 9.62138°E |
Aber | Bight of Biafra |
Llednentydd | Abo |
Dalgylch | 11,700 cilometr sgwâr |
Hyd | 160 cilometr |
Ffurfir yr afon yn aber afonydd Ykam ac Afon Makombé, 32 km (20 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Yabassi. Mae Afon Wouri yn llifo wedyn am 160 km (100 milltir) i gyfeiriad y de-ddwyrain i aberu yn y Cefnfor Iwerydd yn ninas Douala, ar Gwlff Gini. Gellir mordeithio 64 km (40 milltir) i fyny'r afon o Ddouala.
Y fforiwr Portiwgalaidd Fernão do Pó (neu Fernando Póo), oedd yr Ewropeiad cyntaf i chwilio'r afon, tua'r flwyddyn 1472. Oherwydd i'r mordeithwyr ddarganfod nifer helaeth o Corgimachiaid ynddi, enwyd yr afon yn Rio dos Camarões (Portiwgaleg am "Afon Corgimachiaid") ganddynt. Dyma'r enw a roddes yr enw Camerŵn ar y wlad ei hun.
Mae Pont Bonabéri, a godwyd gan y Ffrancwyr yn y 1950au, yn cysylltu Douala â thref Bonabéri ar y lan arall. Dyma'r bont bwysicaf yn y wlad sy'n cludo cynnyrch amrywiol o'r de i'r canolbarth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Afon Wouri, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.