Gwlff sy'n rhan o Fôr Iwerydd ar arfordir gorllewinol Affrica yw Gwlff Gini.
Ystyrir bod Bae Benin yn y gogledd-orllewin a Gwlff Bonny yn y gogledd-ddwyrain yn ffurfio rhannau ohono.
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd |
Gwlad | Liberia, Y Traeth Ifori, Ghana, Togo, Benin, Nigeria, Camerŵn, Gini Gyhydeddol, Gabon, São Tomé a Príncipe |
Gerllaw | De Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Port Harcourt, Osu |
Cyfesurynnau | 1°N 4°E |
Mae'r gwlff yn cynnwys nifer o ynysoedd o darddiad folcanig. Y prif ynysoedd yw Bioko, Príncipe, São Tomé, Annobon a Corisco. Y prif afonydd sy'n aberu yn y gwlff yw afon Niger, afon Volta ac afon Sanaga. Mae'r Gwlff o bwysigrwydd economaidd mawr oherwydd fod olew i'w gael yma.
Y gwledydd sydd ag arfordir ar Gwlff Gini, o'r gorllewin hyd y de-ddwyrain, yw:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwlff Gini, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.