Clefyd sy'n deillio o ddiffyg fitamin B3 (niacin) yw pelagra.
Ymhlith y symptomau mae croen llidus, briwiau yn y geg, dolur rhydd a gorddryswch. Fel arfer mae'r rhannau o'r croen sy'n agored i olau'r haul neu i rwbiad yn cael eu heffeithio gyntaf. Dros amser gall y croen hwnnw dywyllu, anystwytho, croenio neu waedu.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd diffyg maethiad, other acquired skin disease, clefyd y croen, clefyd |
Symptomau | Dolur rhydd, rhithweledigaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae dau brif fath o'r clefyd. Mae'r math cyntaf yn cael ei achosi gan fwyta bwyd nad yw'n cynnwys digon o niacin a thryptoffan. Mae'r ail math yn deillio o anallu'r corff i ddefnyddio'r niacin mewn bwydydd. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i rai afiechydon, yn ogystal ag alcoholiaeth, a nifer o feddyginiaethau fel isoniasid.
Yn hanesyddol, mae pelagra yn glefyd o dlodi sy'n gysylltiedig â diffyg maeth. Mae i'w ganfod o hyd mewn gwledydd datblygol, yn enwedig ymhlith pobl sy'n cael y rhan fwyaf o'u hegni bwyd o indrawn, yn arbennig yn Ne America wledig, gan fod indrawn yn ffynhonnell wael o niacin a thryptoffan.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pelagra, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.