Enwad o Iddewon tra-uniongred (haredim) sy'n gwrthod Seioniaeth yw Neturei Karta (Aramaeg נטורי קרתא ; Ceidwaid y Ddinas).
Maent yn gwrthod derbyn na chydnabod bodolaeth Gwladwriaeth Israel. Fe'i sefydlwyd yn Jeriwsalem, eu prif ganolfan. Mae'r Neturei Karta yn Israel ei hun yn gwrthod pleidleisio yn etholiadau'r wlad.
Gellir crynhoi dysgeidiaeth ymarferol yr enwad fel a ganlyn:
Mae Neturei Karta yn gwrthwynebu bodolaeth yr hyn a alwent yn "Wladwriaeth honedig Israel".
Gwrthwynebant Wladwriaeth Israel nid am ei bod yn wladwriaeth seciwlar ond am ei bod yn credu fod hyd yn oed y cysyniad o wladwriaeth Iddewig yn groes i Ddeddf Duw.
Credant na ddylai'r Iddewon ormesu, lladd, brifo nac achosi unrhyw niwed arall o gwbl i bobl eraill ac felly na ddylent gael unrhyw beth o gwbl i wneud â'r "prosiect Seionaidd" gan gynnwys ei weithgareddau gwleidyddol a'i rhyfeloedd.
Credant fod y gwir Iddewon wedi aros yn driw i'r Ffydd Iddewig ac yn gwrthod "halogi" eu hunain drwy ymwneud â Seioniaeth.
Mae'r gwir Iddewon yn erbyn dadfeddianu tir a chartrefi'r Palesteiniaid a'r Arabiaid (fel a ddigwyddodd i sefydlu Gwladwriaeth Israel ac ers hynny hefyd). Yn ôl y Torah, llyfr sanctaidd yr Iddewon, dylai'r tir hwnnw gael ei roi yn ôl iddynt.
Credant ei bod yn ddyletswydd crefyddol a moesol arnynt i adael i'r byd wybod fod y Seioniaid wedi dwyn enw Israel mewn modd anghyfreithlon ac nad oes ganddynt unrhyw hawl o gwbl i siarad yn enw'r Iddewon.
Credant fod yr Israel hynafol wedi'i dinistrio drwy ewyllys Duw ac mai dim ond y Meseia sy'n gallu ei hadfer. Felly, mae pob ymgais dynol i greu gwladwriaeth Iddewig cyn hynny yn drosedd yn erbyn ewyllys Duw.
Gwleidyddiaeth
Bu'r rabbi Moshe Hirsch, Iddew o Efrog Newydd ac un o wyrion sefydlydd y Neturei Karta, yn Weinidog Materion Iddewig yn llywodraethYasser Arafat.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Neturei Karta, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.