Dinas yn Sbaen yw Zaragoza.
Mae'n brifddinas Cymuned Ymreolaethol Aragón a thalaith Zaragoza. Gyda phoblogaeth o 667,034, hi yw'r bumed dinas yn Sbaen o ran poblogaeth,
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Zaragoza City |
Poblogaeth | 682,513 |
Pennaeth llywodraeth | Jorge Azcón |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Valerius II of Saragossa, Our Lady of the Pillar |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q107553246 |
Sir | Zaragoza Comarca |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 973,780,000 m² |
Uwch y môr | 200 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Ebro, Afon Huerva, Gállego, Imperial Canal of Aragon |
Cyfesurynnau | 41.65°N 0.883333°W |
Cod post | 50001–50022 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Zaragoza City Council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Zaragoza |
Pennaeth y Llywodraeth | Jorge Azcón |
Daw'r enw o'r enw Lladin gwreiddiol Caesar Augusta, a drodd yn Saraqosta yn Arabeg yna'n Zaragoza yn Sbaeneg. Saif ar lannau Afon Ebro, 199 medr uwch lefel y môr. Mae mewn safle ganolog iawn, tua 300 km o bob un o ddinasoedd Madrid, Barcelona, Valencia, Bilbao a Toulouse.
Rhwng 14 Mehefin ac 14 Medi 2008 bydd arddangosfa ryngwladol Expo Zaragoza 2008 yn cael ei gynnal yno. Mae'r maes awyr wedi tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wedi i Ryanair dechrau hedfan yno. Yn 2003 dechreuodd gwasanaeth trên cyflym sy'n cysylltu'r ddinas a Madrid a Lleida.
Ymhlith golygfeydd Zaragoza mae El Pilar, lle ceir lluniau gan Goya, yr Eglwys Gadeiriol a'r Palacio de la Aljafería, oedd yn balas y brenin Al-Muqtadir pan oedd Saraqusta yn deyrnas Islamaidd annibynnol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Zaragoza, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.