Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Cathays, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd Cathays (Saesneg: Cathays High School).
Y prifathro presennol ydy Mr Rodney Phillips.
Ysgol Uwchradd Cathays | |
---|---|
Cathays High School | |
Arwyddair | Opportunities for All |
Ystyr yr arwyddair | Cyfleoedd i Bawb |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mr Rodney Phillips |
Lleoliad | Crown Way, Cathays, Caerdydd, Cymru, CF14 3XG |
AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
Disgyblion | 896 (2007) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Gwefan | http://web.cathays.cardiff.sch.uk/ |
Roedd 896 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2007, gan gynnwys 144 yn y chweched ddosbaerth. Gyda 981 yn arolygiad 2001, bu lleihad o 8.6% yn y nifer o ddisgyblion, er i'r nifer o ddisgyblion yn y chweched ddosbarth gynyddu o dros 35.8% (o 106 i 144).
Mae ysgol Cathays yn cynnwys y canran uchaf o blant ceiswyr lloches yng Nghaerdydd, gyda rhwng 7% a 10%, a mae trosiant o rhwng 20% a 30% yn y disgyblion pob blwyddyn. Siaradair disgyblion dros 30 o ieithoedd gwahanol gan gynnwys Arabeg, Bengali, Tsieceg, Farsi, Punjabi, Somali ac Wrdw. Nid yw unrhyw o'r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, a dim ond tua hanner sy'n siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Mae 257 o ddisgyblion yn derbyn cymorth i ddysgu Saesneg fel ail-iaith.
Arwyddair yr ysgol ydy "Opportunities for All".
Yn ôl adroddiad Estyn 2007, mae'n ysgol dda gyda nifer o nodweddion rhagorol. Mae ethos arbennig yn ganlyniad o rhoi pwyslais ar bwysigrwydd cefndir a diwylliant y disgyblion. Mae'r disgyblion yn symud ymlaen yn dda yn eu dysgu, ac mae cyngor ac arweiniad da yn cael ei ddarparu. Bu gwelliannau sylweddol yn yr awyrgylch addysgu ers yr arolygiad blaenorol yn 2001.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Uwchradd Cathays, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.