Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Pentwyn, Caerdydd ydy Ysgol Gynradd Bryn Celyn (Saesneg: Bryn Celyn Primary School).
Y prifathro presennol yw Mr David C. Pedwell. Lleolir yn nhalgylch Ysgol Uwchradd Llanedeyrn.
Ysgol Gynradd Bryn Celyn | |
---|---|
Bryn Celyn Primary School | |
Arwyddair | To progress with purpose and pride |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | David C. Pedwell |
Lleoliad | Glyn Collen, Pentwyn, Caerdydd, Cymru, CF23 7ES |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Oedrannau | 3–11 |
Gwefan | http://www.bryncelynprm.cardiff.sch.uk |
Yng ngwanwyn 2006, cyhoeddwyd cynlluniau ad-drefnu addysg Cyngor Caerdydd, cynnigwyd cau'r ysgol ym mis Medi 2008, gan ddymchwel yr adeiladau a pharatoi'r tir i gael ei wethu a'i ailddatblygu ar gost o £92,000. Ond, yn 2007 yn ystod yr ymgynghori statudol ynglŷn â cynyddu darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, cafodd y syniad o addasu'r ysgol ei grybwyll, er mwyn ei creu un a dderbyniai un dosbarth cyfrwng Saesneg, ac un dosbarth Cymraeg y flwyddyn. Gan, mewn effaith, greu dwy ysgol arwahan ar un safle.
Ar 5 Rhagfyr 2008, cyhoeddodd y Cynulliad gynnig i drosglwyddo'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd i'w sefydlu ar ran o safle Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans i ran o safle Ysgol Gynradd Bryn Celyn. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau a gweithredwyd y cynnig ym mis Medi 2009, gan agor Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Gynradd Bryn Celyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.