Y weithred o adael gwlad er mwyn setlo mewn gwlad arall yw ymfudo neu allfudo a hynny fel arfer, yn barhaol.
Mae'r gair yn tarddu o'r gair "mudo" sydd yntau'n tarddu o "symud". Cafodd y gair "ymfudo" ei ddefnyddio'n gyntaf yn y Gymraeg ym 1830. Ar 28 Mai 1865, cychwynnodd ymfudwyr Cymreig ar eu taith hir o Lerpwl i Batagonia dan arweiniad Michael D. Jones. Dyma enghraifft o ymfudo. Mae'n digwydd yn aml o ganlyniad i dlodi, afiechyd, erlid crefyddol a gwleidyddol neu ryfel. Mae llawer o ffoaduriaid rhyfel yn ymfudo. Mae'r rhesymau uchod yn ffactorau sy'n gwthio pobl. Ond ceir rhesymau sy'n atynu hefyd: gwelliant mewn darpariaeth iechyd, addysg neu ffactorau economaidd, e.e. mae llawer o Brydeinwyr wedi ymfudo i Jersey a'r Swistir i arbed talu treth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ymfudo, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.