Casgliad o ddywediadau a athrawiaeth Iesu Grist sy'n pwysleisio ei ddysgeidiaeth foesol yw'r Bregeth ar y Mynydd.
Mae i'w chanfod yn yr Efengyl yn ôl Mathew (penodau 5, 6, a 7). Dyma'r cyntaf o Bum Disgwrs Mathew ac mae'n ymddangos yn gymharol gynnar yng Ngweinidogaeth Iesu, yn dilyn ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr, ei ympryd a'i fyfyrdod yn yr anialwch, ac wedi iddo ddechrau pregethu yng Ngalilea.
Enghraifft o'r canlynol | Pregeth |
---|---|
Awdur | Iesu |
Rhan o | stori'r Iesu yn y Testament Newydd |
Yn cynnwys | y Gwynfydau, Gweddi'r Arglwydd, Parable of the Wise and the Foolish Builders |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Bregeth yw disgwrs di-dor hiraf Iesu yn y Testament Newydd, ac un o'r elfennau sy'n cael ei dyfynnu fwyaf o'r Efengylau. Mae'n cynnwys rhai o ddysgeidiaethau mwyaf adnabyddus Iesu, fel y Gwynfydau a Gweddi'r Arglwydd. Mae'r Bregeth ar y Mynydd yn cael ei hystyried fel un sydd yn cynnwys yr elfennau creiddiol o fod yn ddisgybl i Grist.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Bregeth ar y Mynydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.