Pregeth

Araith ar bwnc diwinyddol neu foesol gan broffwyd, clerigwr neu berson crefyddol arall yw pregeth.

Yn y Gorllewin tueddir i gysylltu'r gair â'r Gristnogaeth, ond gellir ei gymhwyso i ddisgrifio areithiau cyffelyb mewn crefyddau eraill yn ogystal, yn enwedig yn achos Iddewiaeth, Islam a Bwdiaeth.

Cristnogaeth

Pregeth 
Y Bregeth ar y Mynydd

Ceir sawl enghraifft o'r bregeth yn yr Hen Destament ac enwir un o'i lyfrau yn Llyfr y Pregethwr (Ecclesiastes). Y bregeth enwocaf yn y traddodiad Cristnogol yw'r Bregeth ar y Mynydd, a draddodwyd gan Iesu o Nasareth.

Yng Nghymru daeth y bregeth i fod yn un o brif ffurfiau llenyddol y Cyfnod Modern Cynnar a pharhaodd yn ffurf lenyddol bwysig ar ôl hynny. Ymhlith pregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru gellid crybwyll Howel Harris, John Elias, Thomas Charles a Tanymarian. Cyhoeddodd y llenor gwladgarol Emrys ap Iwan sawl pregeth ar bynciau crefyddol, moesol a gwladol.

Islam ac Iddewiaeth

Y Proffwyd Mohamed yw pregethwr enwocaf Islam, ond mae'r grefydd yn parchu'r rhan fwyaf o bregethwyr yr Hen Destament yn ogystal. Yr enw Arabeg am bregeth yw khutba (Arabeg: (خطبة khutbah). Traddodir khutba o flaen gweddïau dydd Gwener mewn mosgiau ac yn ystod Eid ul-Fitr. Ceir khutba fawr yn rhan o'r Hajj ar wastadeddau Arafat, tu allan i Fecca.

Ceir nifer o bregethau yn y llyfrau sanctaidd Iddewig, e.e. y Midrash. Mae Iddewiaeth yn rhannu â'r Gristnogaeth llyfrau'r Hen Destament yn ogystal.

Bwdiaeth

Y bregeth enwocaf yn hanes Bwdiaeth yw pregeth gyntaf Siddhartha Gotama, y Bwdha, sef y Dhammacakkappavattana Sutta, a draddodwyd ym Mharc Ceirw Sarnath, gogledd India.

Gweler hefyd

Pregeth  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Pregeth CristnogaethPregeth Islam ac IddewiaethPregeth BwdiaethPregeth Gweler hefydPregethAraithBwdiaethCristnogaethDiwinyddiaethIddewiaethIslamMoesegY Gorllewin

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1499TriesteCarecaIeithoedd CeltaiddKate RobertsTocharegFfynnonRiley ReidY FenniAfon TafwysElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigReese WitherspoonMathrafalNeo-ryddfrydiaethGroeg yr HenfydMuhammad705Blwyddyn naidCarly FiorinaArmeniaOld Wives For NewCyrch Llif al-AqsaAwstraliaAnna Gabriel i SabatéAfon TyneNolan GouldWiciadurPenny Ann EarlyLlinor ap GwyneddDon't Change Your Husband30 St Mary AxeFunny PeopleTeithio i'r gofod1384Yr WyddgrugRheinallt ap GwyneddY Ddraig GochLos AngelesAnna VlasovaPontoosuc, IllinoisPensaerniaeth dataLlanllieniTeilwng yw'r OenPibau uilleannLloegrRwsia1695703Waltham, MassachusettsDemolition ManJuan Antonio VillacañasCarles PuigdemontPêl-droed AmericanaiddTri Yann80 CCNanotechnolegWiciBeach PartyDirwasgiad Mawr 2008-2012InjanTwo For The MoneyModrwy (mathemateg)Y Nod CyfrinMelangellUMCAEyjafjallajökullDant y llewCastell TintagelEdwin Powell Hubble365 DyddRasel OckhamLori dduCasinoFort Lee, New Jersey🡆 More