Rhanbarth sy'n ffurfio rhan ddeheuol Gwlad Belg yw Walonia (Ffrangeg: Wallonie, Iseldireg: Wallonië).
Dyma'r rhan Ffrangeg ei hiaith o Wlad Belg, er bod tua 70,000 o'r boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith yn y dwyrain.
Math | rhanbarth yng Ngwlad Belg |
---|---|
Enwyd ar ôl | Wallonia |
Prifddinas | Namur |
Poblogaeth | 3,645,243 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Le Chant des Wallons |
Pennaeth llywodraeth | Elio Di Rupo |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Almaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwlad Belg |
Sir | Gwlad Belg |
Gwlad | Gwlad Belg |
Arwynebedd | 16,844 km² |
Uwch y môr | 163 metr |
Yn ffinio gyda | Flemish Region, Rheinland-Pfalz, Limburg, Nordrhein-Westfalen, Champagne-Ardenne, Hauts-de-France, Dwyrain Mawr |
Cyfesurynnau | 50.35°N 5.27°E |
BE-WAL | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Wallonia |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Minister-President of Wallonia |
Pennaeth y Llywodraeth | Elio Di Rupo |
Y brifddinas yw Namur, er mai Charleroi yw'r ddinas fwyaf a Liège yr ardal ddinesig fwyaf. Gydag arwynebedd o 16.844 km² mae Walonia'n ffurfio 55% o Wlad Belg, ond yn cynnwys dim ond 33% o'r boblogaeth, 3,456,775 yn 2008. Daw'r enw o'r un gwreiddyn Almaenaidd a Wales am Gymru, o *Weleas, yn golygu tramorwyr Lladin eu hiaith neu Rufeiniedig. Rhennir Walonia yn bum talaith:
Yn ystod y 19g a dechrau'r 20g, roedd Walonia yn ardal ddiwydiannol bwysig, ac yn gyfoethocach na Fflandrys, y rhan Iseldireg ei iaith o Wlad Belg. Gyda dirywiad y diwydiannau trwm, mae yn awr yn llai cyfoethog na Fflandrys. Mae gan Walonia ei hanthem genedlaethol eu hun, Le Chant des Wallons.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Walonia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.