Roald Dahl: Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, peilot a sgriptiwr

Awdur o Sais oedd yn ysgrifennu nofelau a storïau byrion, a llenor ar gyfer y sgrîn, oedd Roald Dahl (13 Medi 1916 – 23 Tachwedd 1990).

Roedd yn enwog am ei lyfrau ar gyfer oedolion a phlant yn arbennig.

Roald Dahl
Roald Dahl: Teulu, Diwrnod Roald Dahl, Llenyddiaeth plant
Ganwyd13 Medi 1916 Edit this on Wikidata
Llandaf Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd1 Rhagfyr 1916 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1990 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Deyrnas Unedig
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, nofelydd, hunangofiannydd, bardd, awdur storiau byrion, awdur plant, ysgrifennwr, peilot awyren ymladd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCharlie a'r Ffatri Siocled, James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Mr Cadno Campus, Matilda, Y Gwrachod, Y Twits, Yr CMM, The Gremlins, Moddion Rhyfeddol George, Danny Pencampwr y Byd, Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr, Esio Trot Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth arswyd, cyfriniaeth, ffantasi, llenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadCharles Dickens, C. S. Forester, Frederick Marryat, Jonas Lie, Rudyard Kipling, William Makepeace Thackeray Edit this on Wikidata
TadHarald Dahl Edit this on Wikidata
MamSofie Magdalene Hesselberg Edit this on Wikidata
PriodPatricia Neal, Felicity Dahl Edit this on Wikidata
PlantOlivia Dahl, Tessa Dahl, Ophelia Dahl, Theo Dahl, Lucy Dahl Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Edgar, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr World Fantasy am Gyflawniad Gydol Oes, Gwobr y Brwsh Paent Aur, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Edgar, Children's Book Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.roalddahl.com Edit this on Wikidata
llofnod
Roald Dahl: Teulu, Diwrnod Roald Dahl, Llenyddiaeth plant

Ganwyd Dahl yng Nghaerdydd i rieni o Norwy. Cafodd ei fedyddio yn yr Eglwys Norwyaidd ar bwys y bae. Mynychodd Ysgol Repton yn Swydd Derby. Daeth i'r amlwg yn y 1940au gyda'i waith ar gyfer plant ac oedolion, gan ddod yn un o awduron mwyaf poblogaidd y byd. Datgelwyd yn y 1980au iddo weithio fel asiant ddirgel ar gyfer MI6, Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Dramor Prydain, gan wasanaethu yn yr Unol Daleithiau i hybu buddion Prydain ac i frwydro yn erbyn symudiad "America First", gan weithio ar y cyd gydag Ian Fleming a David Ogilvy. Mae'r llyfr hanesyddol, "The Irregulars" gan Jennet Conant (2008, Simon and Schuster) yn disgrifio'r cyfnod hwn ym mywyd Dahl a'i gyfoeswyr.

Mae llyfrau mwyaf poblogaidd Dahl yn cynnwys Y Twits, Charlie a'r Ffatri Siocled, James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Matilda, Y Gwrachod ac Yr CMM.

Teulu

Pan oedd yn bedwar mis oed, cafodd Theo Dahl anafiadau drwg pan drawodd tacsi ei bram. Fe ddioddefodd o hydrocephalus, ac fel canlyniad, daeth Dahl i ymwneud gyda datblygiad y falf "Wade-Dahl-Till" (neu'r falf WDT), dyfais i leddfu'r cyflwr.

Priododd Dahl yr actores Americanaidd, Patricia Neal, ar 2 Gorffennaf 1953 yn Eglwys y Drindod, Dinas Efrog Newydd. Parhaodd y briodas 30 mlynedd a chawsont bump o blant: Olivia (a fu farw o frech-wen encephalitis, yn saith oed), Tessa, Theo, Ophelia, a Lucy. Cysegrwyd y llyfr The BFG i Olivia.

Yn 1965, dioddefodd Neal dri ebychiad aneurysm ymenyddol tra'n feichiog gyda'u pumed plentyn, Lucy; fe gymerodd Dahl reolaeth o'i adferiad, ac fe ailddysgodd sut i gerdded a siarad yn y diwedd. Ar ôl priodas gythryblus, cawsant ysgariad yn 1983, ac fe ail-briododd Dahl Felicity ("Liccy") d'Abreu Crosland (ganwyd 12 Rhagfyr 1938), a oedd 22 mlynedd yn iau nag ef.

Mae Ophelia Dahl yn gyfarwyddwr ac yn gyd-sefydlydd (gyda Paul Farmer) cymdeithas ddi-elw Partners in Health, sy'n darparu gofal iechyd i rai o gymunedau tlotaf y byd. Mae Lucy Dahl yn llenor ar gyfer y sgrin yn Los Angeles. Mae merch Tessa, Sophie Dahl (a ysbrydolodd Dahl i greu cymeriad Sophie, prif gymeriad Y CMM) yn fodel ac yn awdures, mae hi'n cofio Roald Dahl fel "dyn anodd iawn – cryf iawn, dominyddol ... ddim yn annhebyg i tad y chwiorydd Mitford yn rhuo o gwmpas y tŷ yn dweud ei farn yn swnllyd, gan wahardd rhai bechgyn rhag ymweld â'r tŷ." Mae un o nifer o wyrion Dahl yn mynychu'r Royal Palm Academy.

Diwrnod Roald Dahl

Yn ddiweddar, mae diwrnod pen-blwydd Dahl, 13 Medi, wedi cael ei ddathlu yn eang fel Diwrnod Roald Dahl.

Ar benwythnos 17/18 Medi 2016 cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd i ddathlu canmlwyddiant geni Dahl. Daeth torf o filoedd i weld y digwyddiadau 'annisgwyl' oedd wedi eu seilio ar waith llenyddol yr awdur, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Llenyddiaeth plant

Roedd mam Dahl yn arfer adrodd straeon iddo ef a'i chwiorydd am greaduriaid mytholegol Norwyaidd, ac mae nifer o'i lyfrau'n cyfeirio at y rhain neu wedi cael eu hysbrydoli gan y straeon, megis y cewri yn The BFG. Darlunwyd nifer o'i lyfrau gan Quentin Blake.

Rhestr Gweithiau

Gwaith ar gyfer Plant

Storïau Plant

Roald Dahl: Teulu, Diwrnod Roald Dahl, Llenyddiaeth plant 
Yr CMM
(1982)

Barddoniaeth Plant

Roald Dahl: Teulu, Diwrnod Roald Dahl, Llenyddiaeth plant 
Pastai Odl
(Rhyme Stew) (1989)
  • Ffi Ffai Ffiaidd (Saesneg: Revolting Rhymes) (1982)
  • Ych-A-Fi (Saesneg: Dirty Beasts) (1983)
  • Pastai Odl (Saesneg: Rhyme Stew) (1989)

Ffuglen ar gyfer Oedolion

Nofelau

  • Sometime Never: A Fable for Supermen (1948)
  • My Uncle Oswald (1979)

Casgliadau Storïau Byrion

  • Over To You: Ten Stories of Flyers and Flying (1946)
  • Someone Like You (1953)
  • Kiss Kiss (1960)
  • Twenty-Nine Kisses from Roald Dahl (1969)
  • Tales of the Unexpected (1979)
  • Switch Bitch (1974) ISBN 0-1400-4179-6
  • More Tales of the Unexpected (1980)
  • The Best of Roald Dahl (1978)
  • Roald Dahl's Book of Ghost Stories (1983). Golygwyd gyda rhagair gan Dahl.
  • Ah, Sweet Mystery of Life: The Country Stories of Roald Dahl (1989)
  • The Collected Short Stories of Dahl (1991)
  • Two Fables (1986). "Princess and the Poacher" a "Princess Mammalia".
  • The Great Automatic Grammatizator (1997). (Adnabyddir yn yr Unol Daleithiau dan yr enw The Umbrella Man and Other Stories).
  • Skin And Other Stories (2002)
  • Roald Dahl: Collected Stories (2006)

Ffeithiol

  • The Mildenhall Treasure (1946, 1977, 1999)
  • Boy – Tales of Childhood (1984) Atgofion hyd oedran 16, gan ganolbwyntio yn arbenig ar addysgu ym Mhrydain yn nechrau'r 20g.
  • Going Solo (1986) Dilyniant iw hunanatgofiant, ynddi mae'n mynd i weithio i Shell ac yn gwario amser yn gweithio yn Tansanïa cyn ymuno â ymdrech y rhyfel gan fod yn un o'r peilotau cynghreiriol olaf i adael Gwlad Groeg yn ystod y goresgyniad Almaeneg.
  • Measles, a Dangerous Illness (1986)
  • Memories with Food at Gipsy House (1991)
  • Roald Dahl's Guide to Railway Safety (1991)
  • My Year (1993)
  • The Roald Dahl Ominibus (1993)

Dramâu

  • The Honeys (1955) Cynhyrchwyd yn Theatr Longacre ar Broadway.

Sgriptiau Ffilm

Teledu

  • Way Out (1961) Cyfres Arswyd a gynhyrchwyd gan David Susskind
  • Alfred Hitchcock Presents ysgrifennwyd penodau gan Roald Dahl:
    • Alfred Hitchcock Presents: "Lamb to the Slaughter" (1958)
    • Alfred Hitchcock Presents: "Dip in the Pool" (1958)
    • Alfred Hitchcock Presents: "Poison" (1958)
    • Alfred Hitchcock Presents: "Man from the South" (1960)
    • Alfred Hitchcock Presents: "Mrs. Bixby and the Colonel's Coat" (1960)
    • Alfred Hitchcock Presents: "The Landlady" (1961)
  • Tales of the Unexpected (1979-88), ysgrifennwyd a chyflwynwyd penodau gan Roald Dahl

Cyfeiriadau

Tags:

Roald Dahl TeuluRoald Dahl Diwrnod Roald Dahl Llenyddiaeth plantRoald Dahl Rhestr GweithiauRoald Dahl CyfeiriadauRoald Dahl13 Medi1916199023 TachweddLlenorNofelStori fer

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Seland NewyddMaidaanY Weithred (ffilm)Wicipedia CymraegCynhyrchydd ffilmAberth MorwynWreterAnkstmusikMarie HowetGwobrau Dewi SantRiders of The DarkIkurrinaKurt VonnegutGramadeg Lingua Franca NovaCadair yr Eisteddfod GenedlaetholCorff rheoli iaithAdnabyddwr gwrthrychau digidolParisRhanbarthRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrRiders of The Northwest MountedY Deyrnas UnedigPatrôl PawennauRough Riders' Round-UpLatfiaTrio MandiliBronco BillyErotigPaula FoxJohn Tudor Jones (John Eilian)C.P.D. Derwyddon CefnHaearnCamriTancer olewMarie CazinGwladKirundiGwylan y GweunyddMiddlesexRaisa GorbachevaLlyfr llafarWicipediaGoogle ChromeThe Purple RidersSansgritHuw ChiswellDinas Efrog NewyddLe Grand, IowaLes DégunsRhian MorganPoenliniaryddReema BansalChennaiAntony Armstrong-JonesCredydArglwyddi'r MersCosta RicaVadim Aleksandrovich YurevichYr Ymerodraeth RufeinigAlpha DogThe Salton SeaThe FanJohn DemjanjukHafanIeithoedd IsraelThe Prairie WifeRhywedd amrywiolSerol SerolIesuNicotinaGruffydd WynPinocchio (ffilm 1940)Ambush ValleyY pâsRiders of Border Bay🡆 More