Llyn yn ne Sweden yw Vänern.
Gydag arwynebedd o 5,655 km², Vänern yw'r llyn fwyaf yn Sweden, a'r trydydd fwyaf yn Ewrop. Saif yn Götaland, yn nhaleithiau Västergötland, Dalsland a Värmland.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Karlstad, Hammarö Municipality, Bwrdeistref Kristinehamn, Gullspång Municipality, Bwrdeistref Mariestad, Götene Municipality, Lidköping Municipality, Bwrdeistref Vänersborg, Grästorp Municipality, Bwrdeistref Mollerud, Bwrdeistref Åmål, Säffle Municipality, Bwrdeistref Grums |
Gwlad | Sweden |
Arwynebedd | 5,650 km² |
Uwch y môr | 44.4 metr |
Cyfesurynnau | 58.9167°N 13.5°E |
Dalgylch | 41,182 cilometr sgwâr |
Hyd | 140 cilometr |
Ffurfiwyd y llyn yn ystod yr oes ia ddiwethaf, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae 44 m uwch lefel y môr, ac yn 106 m yn ei fan dyfnaf. Yr afon fwyaf sy'n llifo i mewn iddo yw afon Klarälven, sy'n llifo i'r llyn ar yr ochr ogleddol, ger dinas Karlstad. Mae Göta älv, sy'n rhan o Gamlas Göta, yn llifo allan. Ceir diwydiant pysgota pwysig yma, ac mae pysgota hamdden hefyd yn boblogaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Vänern, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.