Cynhaliwyd 47ain Uwchgynhadledd yr G7 o Ddydd Gwener 11 Mehefin i Ddydd Sul 13 Mehefin 2021 yn Carbis Bay (Porth reb Tor), Cernyw, yn y Deyrnas Unedig a oedd yn llywyddu'r fforwm y flwyddyn honno.
Cyfarfu pennau llywodraethol y saith gwlad sydd yn aelodau'r G7: Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Joe Biden, Arlywydd Unol Daleithiau America; Angela Merkel, Canghellor yr Almaen; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; Yoshihide Suga, Prif Weinidog Japan; Mario Draghi, Prif Weinidog yr Eidal; a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada. Yno hefyd bu Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, y ddwy swydd a wahoddir fel rheol i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd yn yr uwchgynhadledd. Gwahoddwyd hefyd arweinwyr o bedair gwlad arall—Narendra Modi, Prif Weinidog India (a gyfranogai o bell oherwydd yr argyfwng COVID-19 yn ei wlad); Cyril Ramaphosa, Arlywydd De Affrica; Moon Jae-in, Arlywydd De Corea; a Scott Morrison, Prif Weinidog Awstralia—ac António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Hon oedd uwchgynhadledd gyntaf yr G7 ers 2019; ni chynhelir yr 46ain uwchgynhadledd arfaethedig, a oedd i gael ei chynnal yn Camp David dan lywyddiaeth yr Unol Daleithiau ym Mehefin 2020, oherwydd pandemig COVID-19. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf a fynychwyd gan yr Arlywydd Biden a'r Prif Weinidogion Suga a Draghi.
Enghraifft o'r canlynol | G7 summit |
---|---|
Dechreuwyd | 11 Mehefin 2021 |
Daeth i ben | 13 Mehefin 2021 |
Rhagflaenwyd gan | 46th G7 summit |
Olynwyd gan | 48th G7 summit |
Lleoliad | Carbis Bay |
Gwefan | https://www.g7uk.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Erbyn diwedd y penwythnos, cytunodd arweinwyr yr G7 i gyhoeddi communiqué diplomyddol yn crynhoi eu hagenda:
Bu’n rhaid i Michael Gove adael uwchgynhadledd arweinwyr ar ôl derbyn rhybudd ap coronafirws. Roedd Gove wedi bod i Bortiwgal i wylio gêm bêl-droed. Yn ystod y gynhadledd, cynhaliwyd profion coronafirws positif yn cynnwys heddwas a gwesteion mewn gwesty lle’r oedd aelod o dîm diogelwch Angela Merkel yn aros. Bu cynnydd mewn achosion yng Nghernyw, a barhaodd ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Uwchgynhadledd yr G7, 2021, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.