Mae'r Dywysoges Reiol (Saesneg Princess Royal) yn anrhydedd sy'n cael ei roi, fel arfer (ond nid yn awtomatig) gan deyrn Prydain i'w merch hynaf.
Er ei fod yn gwbl anrhydeddus, dyma'r anrhydedd uchaf y gellir ei rhoi i aelod benywaidd o'r teulu brenhinol. Bu saith Tywysoges Reiol. Daeth y Dywysoges Anne yn Dywysoges Reiol ym 1987.
Enghraifft o'r canlynol | teitl bonheddig |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1642 |
Deiliad presennol | Mary Henrietta, Anne o Hannover, Charlotte, Victoria, Louise, y Dywysoges Reiol, Mary, Anne, y Dywysoges Reiol |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth arddull y Dywysoges Reiol i fodolaeth pan oedd y Frenhines Henrietta Maria (1609–1669), merch Harri IV, Brenin Ffrainc , a gwraig y Brenin Siarl I (1600–1649), eisiau dynwared y ffordd yr oedd merch hynaf Brenin Ffrainc yn " Madame Royale " . Felly daeth y Dywysoges Mary (ganwyd 1631), merch Henrietta Maria a Charles, y Dywysoges Reiol gyntaf ym 1642.
Er eu tebygrwydd dydy'r teitl Rheiol ddim yn "Gymreigiad" o'r gair Saesneg royal, mae'n perthyn i'r hen, hen air Cymraeg am arweinydd "Rhi", sydd, hwyrach, yn perthyn i'r gair Lladin Rex.
Dim ond un ferch gall cael yr anrhydedd o fod yn Dywysoges Reiol ar y tro, os bydd y deiliad presennol (2023), y Dywysoges Anne yn fyw ar ôl farw ei frawd mawr, Y Brenin Siarl III ni fydd hawl gan edling y brenin, y Tywysog Wiliam, rhoi'r anrhydedd i'w ferch hynaf, y Dywysoges Charlotte, cyn marw ei fodryb.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tywysoges Reiol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.