Dinas yn Libanus yw Tyrus, Groeg: Τύρος Týros.
Saif ger y môr yn ne Libanus, tua 80 km i'r de o Beirut. Gyda poblogaeth yn 117,100, hi yw'r bedwaredd dinas yn Libanus o ran maint.
Math | dinas, village/town/city in Lebanon, dinas fawr, dinas hynafol, dinas-wladwriaeth |
---|---|
Poblogaeth | 160,000 |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tyre District |
Gwlad | Libanus |
Arwynebedd | 5 km² |
Uwch y môr | 10 metr |
Cyfesurynnau | 33.27°N 35.2°E |
Mae Tyrus yn hen ddinas Ffenicaidd, ac yn ôl mytholeg yn fan geni Europa ac Elissa (Dido). Enwyd yr Hippodrome Rhufeinig fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Yn ôl Herodotus, sefydlwyd Tyrus tua 2750 CC, ac mae cofnodion amdani yn dyddio o tua 1300 CC. Daeth yn ddinas fwyaf nerthol Ffenicia, a sefydlodd lawer o wladychfeydd; Carthago yw'r enwocaf o'r rhain. Roedd y ddinas yn nodedig am gynhyrchu lliw porffor arbennig, porffor Tyrus.
Am gynodau bu'r ddinas dan reolaeth yr Aifft, yna'n ddiweddarachg yn rhan o Ymerodraeth Persia. Yn 332 CC, cipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr, brenin Macedon, wedi gwarchae o saith mis. Yr adeg honno roedd Tyrus ar ynys fechan, felly adeiladodd byddin Alecsander gob i gysylltu'r ddinas a'r tir mawr. Ad-enillodd y ddinas ei hanibyniaeth oddi wrth yr Ymerodraeth Seleucaidd yn 126 CC. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r ymerodraeth Rufeinig.
Cipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 1124, a daeth yn un o ddinasoedd pwysicaf Teyrnas Jeriwsalem a phencadlys archesgobaeth Tyrus. Ad-enillwyd y ddinas i Islam yn 1291.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tyrus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.