Tynghediaeth

Athroniaeth neu gredo sydd yn tybio pob digwyddiad yn rhagderfynedig ac anochel yw tynghediaeth.

Mewn ystyr lac, gall hefyd gyfeirio at agwedd gyffredin sydd yn ymostyngol tuag at ddigwyddiadau, meddylfryd a welir yn deillio'n naturiol o'r athroniaeth hon.

Tynghediaeth
Enghraifft o'r canlynolphilosophical theory Edit this on Wikidata

Gellir olrhain y fydolwg dynghedaidd yn ôl i grefyddau amldduwiol yr Henfyd, gan gynnwys personoliadau'r Tynghedau ym mytholeg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Cafwyd bodau tebyg, y nornir, ym mytholeg y Llychlynwyr.

Tynghediaeth resymegol

Seilir tynghediaeth resymegol ar ddadleuon rhesymeg, a dybir natur anochel rhai digwyddiadau oherwydd deddfau natur neu reswm.

Tynghediaeth ddiwinyddol

Ffurf grefyddol ar dynghediaeth yw tynghediaeth ddiwinyddol, sy'n tybio duw neu oruchaf rym tebyg yn gyfrifol am ragdynghedu pob digwyddiad yn y bydysawd, gan gynnwys gweithredoedd dynol, yn ôl ei gynllun dwyfol. Esiampl o athrawiaeth ddiwinyddol dynghedaidd yw rhagarfaeth, er enghraifft yng Nghalfiniaeth, sy'n honni i Dduw ragordeinio popeth, gan gynnwys iachawdwriaeth yr etholedigion, ac felly mae tynged yr enaid—paradwys neu uffern—wedi ei phenderfynu cyn i'r unigolyn gael ei eni hyd yn oed.

Tynghediaeth benderfyniadol

Mae tynghediaeth benderfyniadol yn gysylltiedig â phenderfyniaeth, sef yr athroniaeth a honnir achosiaeth o ganlyniad i ddigwyddiadau blaenorol a deddfau naturiol.

Cyfeiriadau

Tags:

Tynghediaeth resymegolTynghediaeth ddiwinyddolTynghediaeth benderfyniadolTynghediaeth CyfeiriadauTynghediaethAthroniaeth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Apple Inc.Sadwrn (planed)Hanes economaidd CymruSiroedd yr AlbanY cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau (2021)Y SwistirThe Disappointments RoomWordleCaergybiLlawddryllRhys MwynLife Begins at FortyAddysg uwchraddedigAnna MarekY BeirniadMET-ArtGwyn ap NuddCanadaO Homem NuLa LigaAwstraliaCaitlin MacNamaraPensiwnLlyfr Glas NeboIfan Huw DafyddArbereshSefydliad WicifryngauNwy naturiolArlywydd Ffederasiwn RwsiaDatganoli CymruY Dadeni DysgYsgol Parc Y BontJohn Stuart MillYmosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009Pita bronwynFleur de LysRahasia BuronanMahanaDamon HillPenrith, CumbriaAfon TeifiY Brenin ArthurPussy RiotHuw ChiswellSurvivre Avec Les LoupsFfuglen llawn cyffroHopcyn ap TomasCymruNovialY gosb eithafDolly PartonSafleoedd rhywCalendr HebreaiddHollt GwenerEisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948Dre-fach FelindreInstagramDeeping GateParamount PicturesEva StrautmannCryno ddicRhosneigrYnys MônCymraegEagle EyeOsirisYe Re Ye Re Paisa 2Corazon AquinoMerchSiôr III, brenin y Deyrnas Unedig🡆 More